British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Awst 2011, 07:48 GMT 08:48 UK
Newidiadau: Bywydau mewn perygl

Injan Dn

Mae honiadau y bydd bywydau mewn perygl oherwydd newidiadau i wasanaethau brys yn y canolbarth a'r gorllewin.

Ar hyn o bryd mae 13 o dimau gyda'r Gwasanaeth Tan ac Achub wedi eu hyfforddi i gynorthwyo parafeddygon wrth iddyn nhw gyrraedd digwyddiad.

Ond mae Aelod Cynulliad Gorllewin De Cymru, Peter Black, yn dweud fod y cynllun yn cael ei israddio heb ymgynghoriad cywir.

Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fod diffoddwyr yn dal i ymateb pan mae pobl wedi cael trawiad ar y galon, a bod y cynllun yn dal yn effeithiol.

Dim ymgynghori

Ond dywed Adrian Hughes o undeb diffoddwyr yr RFU fod llai o alwadau wedi bod ers mis Mai, a bod newidiadau sylweddol wedi bod i'r cynllun.

Dywedodd: "Mae'r diffoddwyr sydd wedi bod yn gweithredu'r cynllun yma wedi cael eu hyfforddi gan barafeddygon i sicrhau ein bod yn medru cyflawni'r sgiliau cywir gyda'r offer cywir i achub bywydau.

"Ond nawr dim ond ar gyfer trawiadau yr ydym yn cael ein defnyddio.

"Dydyn ni ddim yn cael ein defnyddio mewn dull ataliol bellach - er enghraifft pan oedd gan rywun boenau yn eu brest ac roedden ni'n defnyddio ein sgiliau i roi therapi ocsigen a sefydlogi'r claf cyn i'r parafeddygon gyrraedd.

"Fydd hynny ddim ar gael yn y dyfodol."

Dywedodd Mr Black fod y Gwasanaeth Ambiwlans wedi israddio'r cynllun heb ymgynghori'n llawn.

Pan gafodd ei holi am effaith posib hyn mewn ardaloedd gwledig, dywedodd y byddai'n arwain at fwy o alwadau am adnoddau ambiwlans, ac ar y GIG.

Ychwanegodd y gallai bywydau gael eu rhoi mewn perygl ac y gallai'r cynllun cyfan fethu gan achosi dioddefaint o bobl yng nghefn gwlad.



HEFYD
Cefnogaeth i wasanaeth ambiwlans
11 Awst 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific