British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Awst 2011, 17:59 GMT 18:59 UK
Llys: Heddlu wedi 'torri' dyn

Achos Lynette
Mae wyth o gyn blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Mae dyn a roddodd dystiolaeth ffug a gyfrannodd at garcharu tri dyn dieuog am lofruddio Lynette White wedi honni bod yr heddlu wedi ei "dorri" i newid ei stori.

Dywedodd Mark Grommek wrth y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe na wyddai ddim am y llofruddiaeth, ond bod yr heddlu wedi rhoi pwysau arno i newid ei stori tan iddo "dorri".

Dywedodd ei fod yn teimlo o dan gymaint o bwysau iddo fynd yn "wallgof" ac am gyfnod roedd yn credu ei gelwyddau ei hun am yr hyn a welodd yn oriau mân 14 Chwefror 1988 yn 7 Stryd James pan gafodd Ms White, 20 oed, ei llofruddio mewn fflat yng Nghaerdydd.

Lynette White
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 gwaith yn ei fflat

Yn ei fersiwn 'gelwyddog', dywedodd Mark Grommek ei fod wedi ateb y drws tua 1.30am ar 14 Chwefror 1988 i grŵp o dri neu bedwar person.

Enwodd Yusef Abdullahi, a garcharwyd yn ddiweddarach ar gam, a Ronnie Actie a gafwyd yn ddiweddarach yn ddieuog o lofruddiaeth mewn achos llys.

Dywedodd iddo glywed pobol yn codi eu lleisiau a sgrech.

Ddydd Mercher yn y llys, dywedodd Mr Grommek bod heddweision wedi rhoi'r enwau iddo a'i fod ef "wedi dweud wrthynt yr hyn yr oedden nhw am glywed".

Jeffrey Gafoor
Cafodd Jeffrey Gafoor ei garcharu am oes ar l pledio'n euog i'r llofruddiaeth yn 2003

Fe gafodd Ms White ei thrywanu 50 o weithiau.

Cafodd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris eu carcharu am ladd Lynette White ym 1990 ond fe'i rhyddhawyd ar apêl ym 1992.

Yn 2003, 15 mlynedd ar ôl y llofruddiaeth, fe gyfaddefodd Jeffrey Gafoor, 38 oed o Lanharan, iddo lofruddio Ms White.

Mae wyth o gyn-blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.



HEFYD
Llys: 'Putain yn byw mewn ofn'
26 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: Tyst yn gwadu ffonio ditectif
25 Gorff 11 |  Newyddion
'Gorfod trywanu Lynette'
22 Gorff 11 |  Newyddion
Lynette: Tystiolaeth putain
20 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: 'Heddlu'n holi'n ymosodol'
08 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: Heddlu wedi 'bwlio' tystion
07 Gorff 11 |  Newyddion
'Wyth wedi ffugio tystiolaeth'
06 Gorff 11 |  Newyddion
Llys Apl: Iawndal yn 'rhy isel'
19 Meh 09 |  Newyddion
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific