British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Awst 2011, 16:23 GMT 17:23 UK
Agor cwest bachgen 12 oed

Casey Breese
Roedd Casey Breese yn aelod o dm pl-droed dan-12 Caersws

Mae Crwner Powys wedi agor cwest i farwolaeth bachgen 12 oed fu farw pan ddisgynnodd ffrâm gôl arno.

Bu farw Casey Breese yng Nghaersws brynhawn dydd Gwener.

Cafodd y cwest ei ohirio tan ddyddiad amhenodol.

Yn gynharach yn yr wythnos, mewn datganiad a gyhoeddwyd drwy law Heddlu Dyfed Powys, dywedodd ei deulu:

"Roedd Casey'n bêl-droediwr brwd ac yn aelod pwysig o dîm dan-12 Caersws.

"Roedd yn ddisgybl ym mlwyddyn 8 yn Ysgol Uwchradd y Drenewydd, ac yn ei amser hamdden roedd yn hoff o fynd ar ei feic BMX, chwarae gyda'i ffrindiau yn y pentref, mynd i faes golff Caersws ac yn ddiweddar fe enillodd gystadleuaeth rownderi.

'Bywiog'

"Fe dreuliodd gryn dipyn o amser ar fferm ei ewythr lle'r oedd yn hoff o fynd ar feic cwad a helpu o gwmpas y lle.

"Roedd yn fachgen bywiog, llawn hwyl, ac yn cael ei garu gan y gymuned i gyd.

"Un tro fe neidiodd i mewn i bwll nofio yn ei ddillad cyn meddwl beth oedd ganddo yn ei bocedi.

Crys pl droed
Gadawyd crys pl droed ar y cae er cof am Casey Breese Ddydd Sadwrn

"Roedd wrth ei fodd yn treulio amser gyda'i dad yn ei waith yn y cwmni adeiladu, ac wrth ei fodd yn trochi ei ddwylo.

"Mae cymaint o ffrindiau ac aelodau o'r teulu a'r gymuned yn cofio Casey, ac fe fydd colled enfawr ar ei ôl."

Dywed yr heddlu fod Casey yn chwarae pêl-droed gyda bechgyn lleol ar gae chwarae yng Nghaersws ddydd Gwener pan gwympodd y pyst arno.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod y pyst gôl yn cael eu harchwilio wedi "marwolaeth drist".

Ychwanegodd y llefarydd nad oedd amgylchiadau amheus i'r farwolaeth.



HEFYD
Teyrnged teulu i fachgen 12 oed
02 Awst 11 |  Newyddion
Marwolaeth: Cannoedd o deyrngedau
31 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific