British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 08:35 GMT 09:35 UK
Lluniau Geoff Charles ar y Maes

Cynan yn y car - un o luniau Geoff Charles
Mae'r lluniau o waith Geoff Charles i'w gweld ar hyd y Maes

Mae 'na luniau eiconig i'w gweld hwnt ac yma ar y Maes yn Wrecsam eleni.

Lluniau gan un o ffotograffwyr newyddiadurol enwoca' Cymru ydyn nhw, Geoff Charles.

Roedd Charles yn enedigol o fro'r Eisteddfod eleni ac yn ogystal â lluniau enfawr mae 'na arddangosfa o'i waith i'w weld yn Y Lle Celf.

Yr artist Peter Finnemore a'r hanesydd celf Russell Roberts sydd wedi creu Heb Eiriau.

Ar y lluniau enfawr sydd i'w gweld ar waliau rhai o'r adeiladau fel Y Babell Lên, Y Theatr a'r Prif Fynedfa mae 'na nod arno er mwyn i chi ganfod mwy o wybodaeth am y llun a'r casgliad drwy'r ffôn symudol.

Mae'n ychwanegu gwybodaeth am gyfoeth a rhychwant Archif Geoff Charles yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Dilys Cadwaladr
yn ogystal a lluniau tu allan mae arddangosfa yn Y Lle Celf

Cofnodi gwlad

Am bron i 50 mlynedd fe wnaeth Geoff Charles gofnodi gwlad a drawsnewidiwyd gan y mecaneiddio a ddigwyddodd i ffermio a diwydiant ar ôl y rhyfel, meddiannu'r tir ar gyfer ynni niwclear a chronfeydd dŵr, a thwf gwleidyddiaeth genedlaetholgar o ganlyniad.

Cofnododd y cyffredin, y di-nod, yr anghyffredin a'r egsotig ym mywyd pob dydd cefn gwlad yn ogystal â hynny yn y pentrefi, y trefi a'r dinasoedd.

Roedd lluniau ysgol, seremonïau dinesig, gwyliau, damweiniau, nwyddau newydd a ffasiynau, i gyd yn gynnwys cyson papurau newydd.

I'r gŵr o Frymbo dyma oedd ei gofnod o fywyd pob dydd yng Nghymru.

"Roedd ymrwymiad Geoff Charles i bobl a'u hamgylchoedd a'i adnabyddiaeth ohonynt yn rhoi mynediad iddo i sefyllfaoedd a'u cofnodi mewn modd digyffelyb," meddai'r curaduron.

Archif

Golygodd ymchwil Peter Finnemore a Russell Roberts eu bod yn gweithio drwy archif eang o tua 120,000 o brintiau a negyddion yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

"Mae wedi bod yn daith garlamus drwy gyfnod cymdeithasol a diwylliannol cyfareddol yn hanes Cymru, sydd yn dal yn rhan o'r cof byw cenedlaethol sydd bob amser yn sicr o ddeillio ar wahaniaethau barn," medden nhw.

"Gan nad oedd 'na fwriad i'w dangos mewn amgylchedd oriel, mae ffotograffau Geoff Charles mewn rhai achosion, pan gânt eu hynysu o'r geiriau a'r penawdau a'u fframiodd unwaith, yn mabwysiadu bywyd arall.

"Wrth ailgyflwyno detholiad o'i luniau fel printiau a thafluniadau newydd a gwasgaru ei ddelweddau yn ffilm archif, rydym yn newid sut y gwelwyd y lluniau hyn yn wreiddiol o ran maint ac yn eu gwneud i weithio'n wahanol."

Eisteddfodwyr
Mae modd cael mwy o wybodaeth am y lluniau drwy ddefnyddio'r ffn a'r we




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific