British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 17:01 GMT 18:01 UK
Rapiwr gorau'r byd yn denu'r plant

Rapsgaliwn yn darllen ei lyfr
Un dyn ar y Maes yn cael sylw mawr yw Rapsgaliwn

Mae 'na un dyn sy'n denu'r plant o bob cwr o'r Maes eleni, Rapsgaliwn.

Wrth lansio'r llyfr cyntaf roedd y plant ddaeth i weld "rapiwr gorau'r byd" yn dawel ym mhabell Y Lolfa.

Yno fe ddarllenodd Rapsgaliwn y stori i'r plant, a'r rhieni oedd yn gwrando.

Mae plant yn hoff o sain odlau ac felly mae Raplyfr 1 O ble mae llaeth yn dod? yn addas, yn llawn penillion i'w darllen a'u rapio'n uchel.

Mae Rapsgaliwn, sy'n adrodd y stori ar ffurf penillion yn gymeriad poblogaidd ar raglenni Cyw ar S4C.

'O nerth i nerth'

"Rydym yn falch fod enwogrwydd Rapsgaliwn yn dal i ledu a'i boblogrwydd yn mynd o nerth i nerth," meddai Siân Eirian, Pennaeth Gwasanaethau Plant S4C.

"Bydd llyfr amdano fel un o arwyr mwyaf eiconig plant Cymru ac un o gymeriadau newydd gwasanaeth teledu arloesol S4C, Cyw yn sicr o fod yn llwyddiant ysgubol."

Yn ogystal â bod yn seren ar y teledu, mae Rapsgaliwn hefyd wedi rhyddhau cryno-ddisg o ganeuon ac yn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd yn Abertawe eleni fe wnaeth ryddhau cân gyda Mistar Urdd.

Eglurodd Gwasg y Lolfa, sy'n cyhoeddi'r llyfr, bod y stori'n dilyn fformat y rhaglen deledu, a gynhyrchir gan gwmni Fflic.

Yno mae Rapsgaliwn yn ei dracwisg sgleiniog aur yn dod o hyd i atebion i gwestiynau pwysig bywyd gyda chymorth ei raplyfr.

Beca Evans, o gwmni Fflic, yw awdur y stori.

E-lyfr

Mae'r llyfr yn brosiect ar y cyd rhwng gwasg y Lolfa, cwmni teledu Fflic a chwmni Cube Interactive, cwmni o Gaerdydd sydd wedi creu'r lluniau ar gyfer gwefan Rapsgaliwn.

Fe fydd ap Rapsgliwn yn barod yn ddiweddarach yn y mis, a fydd yn cynnwys e-lyfr gyda'r lluniau wedi'u hanimeiddio, tudalennau i'w lliwio a phosau.

"Mae hyn yn ddatblygiad cyffrous iawn," meddai Meinir Wyn Edwards o wasg y Lolfa.

"Mae technoleg yn symud mor gyflym y dyddiau yma a phlant yn cael eu sbarduno fwyfwy gan sgrin fach y ffôn a'r iPod yn hytrach na sgrin fawr y teledu a'r cyfrifiadur.

"Diddorol iawn fydd gweld sut bydd yr arbrawf yn gweithio.

"Os bydd Appsgaliwn yn llwyddiant, mae posibiliadau di-ben-draw i ehangu ymhellach."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific