British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 17:25 GMT 18:25 UK
Galw am fwy o gerddoriaeth werin

Roedd nifer o artistiaid a chefnogwyr yn y brotest oedd ger stondin BBC Cymru
Roedd nifer o artistiaid a chefnogwyr yn y brotest oedd ger stondin BBC Cymru

Cafodd protest ei chynnal ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth yn galw am chwarae mwy o gerddoriaeth werin ar Radio Cymru.

Roedd nifer o artistiaid a chefnogwyr yn y brotest oedd ger stondin BBC Cymru.

Honnodd y protestwyr nad oedd cyfryngau Cymru, gan gynnwys Radio Cymru, yn rhoi digon o sylw i gerddoriaeth werin.

Dywedodd un o'r protestwyr, Owain Myfyr, ei fod yn teimlo bod Radio Cymru "i raddau helaeth yn anwybyddu ein traddodiad ni fel cenedl".

Roedd astudiaeth, meddai, wedi dangos yn ddiweddar mai llai na 3% o ganeuon traddodiadol gwerin a gafodd eu chwarae dros gyfnod o amser ar y gwasanaeth.

Mae gennym ni draddodiad cryf ac mae'n ddyletswydd ar y cyfryngau i roi hwn drosodd
Huw Roberts

Protestiwr

'Traddodiad y genedl'

"Rhywsut mae hyn yn rhywbeth difrifol mewn gwirionedd," meddai, "bod radio - neu wasanaeth cenedlaethol, fel mae Radio Cymru'n hoffi galw ei hun - yn anwybyddu traddodiad y genedl."

Dywedodd protestiwr arall, Huw Roberts: "Braf, a dweud y gwir, fyddai cael troi'r radio 'mlaen a chlywed alawon Cymru - boed nhw yn eu ffurf bur felly ar y ffidil neu'r delyn deires.

"Ond wedyn mae 'na grwpiau rwan fel Calan sy'n rhoi'r hen alawon yma mewn cot newydd ac maen nhw'n gyffrous.

"Mae gennym ni draddodiad cryf ac mae'n ddyletswydd ar y cyfryngau i roi hwn drosodd," meddai.

'Balans'

Dywedodd Sian Gwynedd, Pennaeth Rhaglenni Cymraeg BBC Cymru: "'Dan ni'n cymryd unrhyw brotest ac unrhyw sylwadau gan ein gwrandawyr ni o ddifri a wastad yn trio gwneud hyn.

"'A dan ni'n rhoi rhywfaint o sylw i gerddoriaeth draddodiadol Gymraeg. 'Dan ni'n rhoi sylw i'r Ŵyl Gerdd Dant, 'dan ni'n chwarae rhywfaint o gerddoriaeth werin ar yr orsaf.

"Ond rhaid i ni gael y balans efo cerddoriaeth o fathau gwahanol a mi 'dan ni'n trio apelio at y rhan fwya' o'n gwrandawyr ni.

'Apelio'

"Dydw i ddim yn siŵr a fyddai cerddoriaeth gwbl draddodiadol yn apelio at y mwyafrif o'r rheiny.

"Ar ôl dweud hynny 'dan ni'n gwneud lot fawr yn ddiweddar o gerddoriaeth werin efo artistiaid newydd, fwy cyfoes, sy'n dewis canu mewn arddull fwy gwerinol.

"Dwi'n derbyn o safbwynt Radio Cymru fod rhai carfanau eisiau gwahanol fathau o gerddoriaeth a'i bod o'n amhosib i ni apelio at a diwallu angen pawb."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific