British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 10:49 GMT 11:49 UK
Llengfilwyr: 'Nifer o ffynonellau'

Bacteria Legionella
Bu farw dau o bobl yn dilyn yr achosion yng nghymoedd y de

Mae adroddiad am achosion Clefyd y Llengfilwyr yng nghymoedd y de yn awgrymu bod nifer o ffynonellau gwahanol wedi arwain at yr achosion.

Cafodd 22 o bobl driniaeth yn yr ysbyty wedi'r achosion yn ardaloedd Cwm Cynon, Merthyr Tudful a Chwm Rhymni yn ystod hydref 2010.

Bu farw dau o bobl - menyw 49 oed a dyn 85 oed.

Yn ôl adroddiad gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, doedd yna'r un ffynhonnell unigol wedi arwain at yr haint.

Mae'n bosib mai tŵr oeri ym Merthyr Tudful oedd heb ei gofrestru arweiniodd at rai achosion tra oedd eraill wedi'u cysylltu â safle masnachol a manwerthu y tu allan i ardaloedd yr achosion.

Prif ardal yr haint oedd 12 cilomedr bob ochr i ffordd yr A465, Ffordd Blaenau'r Cymoedd, rhwng Y Fenni a Llandarsi.

Roedd pobl oedd yn sâl yn gysylltiedig â'r ardal - neu wedi ymweld â'r ardal yn ystod y pythefnos cyn mynd yn sâl.

'Hynod o gymhleth'

Mae'r adroddiad yn awgrymu bod angen rhagor o gyngor ynglŷn â chymryd samplau a mwy o gydweithio rhwng sefydliadau sy'n delio â'r broblem.

Dywedodd Dr Gwen Lowe, ymgynghorydd rheoli clefydau heintus gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chadeirydd tîm rheoli'r clefyd: "Roedd y rhain yn achosion hynod o gymhleth o ran ymchwilio iddyn nhw.

"Mae'r adroddiad yn diolch i nifer o unigolion a sefydliadau wnaeth gyfraniadau amhrisiadwy wrth ymateb i'r sefyllfa.

"Rydym yn cydymdeimlo â'r rhai ddioddefodd yn sgîl yr achosion."



HEFYD
Llengfilwyr: Achosion ar ben
12 Hyd 10 |  Newyddion
Llengfilwyr: Profion negyddol
21 Medi 10 |  Newyddion
Llengfilwyr: Ail farwolaeth
20 Medi 10 |  Newyddion
Mam o Rymni'n colli brwydr Llengfilwyr
16 Medi 10 |  Newyddion
Llengfilwyr: Gormod o oedi?
15 Medi 10 |  Newyddion
Clefyd: 'Angen mwy o wybodaeth'
14 Medi 10 |  Newyddion
Clefyd: Diheintio trydydd tŵr oeri
13 Medi 10 |  Newyddion
Chwilio am darddiad clefyd
08 Medi 10 |  Newyddion
Ymchwilio i Glefyd y Llengfilwyr
07 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific