British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 11:43 GMT 12:43 UK
Donaldson i gystadlu yn America

Jamie Donaldson
Mae Jamie Donaldson yn rhif 102 ar restr detholion y byd

Bydd y golffiwr Jamie Donaldson yn cystadlu yn un o brif gystadlaethau'r byd yn America am y tro cyntaf.

Clywodd Donaldson ei fod wedi cael lle ym Mhencampwriaeth PGA America, er iddo ddisgyn o 98 i 102 ar restr detholion y byd wedi iddo orffen yn safle 45 ym Mhencampwriaeth Agored Iwerddon dros y penwythnos.

Dim ond unwaith o'r blaen y mae Donaldson wedi cystadlu yn un o'r prif gystadlaethau, pan lwyddodd i gyrraedd Pencampwriaeth Agored Prydain yn Hoylake yn 2006.

Donaldson yw rhif 1 Cymru ar hyn o bryd, ond yn ei ddyddiau amatur roedd yn bartner i Luke Donald - rhif 1 y byd ar hyn o bryd - ym mhencampwriaeth amatur y byd.

Nid yw Donaldson wedi ennill cystadleuaeth ar gylchdaith Ewrop mewn 200 o gynigion, ond mae wedi gorffen yn y 10 uchaf ddwywaith y tymor hwn, ac wedi ennill tair cystadleuaeth ar y Gylchdaith Her ers iddo droi'n broffesiynol yn 2000.

Bydd yn taro'r ergyd gyntaf ym Mhencampwriaeth PGA America yn Atlanta, Georgia, ar ddydd Iau, Awst 11.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific