Roedd Mr Hamilton yn ymweld â theulu yn ne Cymru
|
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn y daethpwyd o hyd iddo ar ymyl y ffordd wedi arestio dau o bobl. Cafwyd hyd i gorff Ian Hamilton, 27 oed o Fryste, ger Pontllanfraith yn Sir Caerffili yn gynnar ar Orffennaf 17. Roedd yn ymweld â'i deulu ar y pryd. Yn ôl swyddogion ar y pryd, roedden nhw'n amau ei fod yn achos o daro a ffoi. Cadarnhaodd Heddlu Gwent ddydd Mawrth fod dyn 22 oed a menyw 18 oed wedi cael eu harestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus. Mae'r ddau, sy'n dod o ardal Risga, yn parhau yn y ddalfa. Yn ôl yr heddlu, dylai unrhyw un oedd yn teithio ar hyd Heol Penmaen ar y bore dan sylw gysylltu gyda nhw ar 101.
|