British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 4 Awst 2011, 05:49 GMT 06:49 UK
Pobol y Brifwyl: Gareth Williams

Mae Newyddion Arlein BBC Cymru wedi bod yn siarad gyda nifer o bobl am eu gwaith a'u cyfrifoldebau ar drothwy'r Eisteddfod yn Wrecsam a'r Fro eleni. Alys Lewis gafodd sgwrs gyda Gareth Williams, Arweinydd Cymry a'r Byd eleni.


Gareth Williams
Mae Gareth Williams yn croesawu pobl o dros y byd i'r eisteddfod

Mae Florida yn lle gwahanol iawn i Rosllannerchrugog, lle cafodd Gareth Williams ei eni, neu i Lyn Ceiriog, lle y cafodd ei fagu.

Gyda'i wraig Donna, mae o wedi ymgartrefu yn America.

Daw Mrs Williams yn enedigol o Florida ac mae'r ddau draw am ryw ddau fis yng Nghymru.

Ef eleni yw Arweinydd Cymry a'r Byd.

Mae o wedi bod yn yr Unol Daleithiau am bron i 50 mlynedd ond mae o wedi llwyddo i gadw mewn cysylltiad gyda hen ffrindiau.

"Mae gen i ffrindiau o hyd yng Nglyn Ceiriog a pherthnasau yn Wrecsam, Llandrillo-yn-Rhos ac yn ardal Y Bala," dywedodd.

Annerch

Caiff gyfle i gyfarfod â llawer ohonyn nhw wrth iddo fynychu pabell Cymry a'r Byd fel rhan o'i ddyletswyddau fel arweinydd y gymdeithas.

"Dwi'n siarad efo bobl yn y babell ac yn siarad mewn te ar gyfer pobl sy'n ymweld â'r Eisteddfod o wledydd tramor," eglurodd.

"Dwi hefyd yn cael fy nghroesawu gan yr Archdderwydd yn y pafiliwn ac yn dweud ychydig eiriau fy hunan."

Daw'r arweinydd yn dod o wlad wahanol bob blwyddyn.

"Blwyddyn ddiwetha' roedd yr adweinyddes o Batagonia a'r flwyddyn cyn hynny o Awstralia."

Doedd o ddim yn yr Eisteddfod ddiwetha' yn Wrecsam yn 1977 ond mae'n cofio mynychu Eisteddfod Rhos ym 1945 pan yn blentyn.

Mae gan Gareth a'i wraig ddau fab a phlant eu hunain ganddyn nhw.

"Mae fy meibion a'm hwyrion wedi ymweld â Chymru a dwi'n teimlo'n hapus am hynny."

Mae Gareth wedi ymddeol o'i swydd fel darlithydd mewn Mathemateg ac yn dod yn ôl i Gymru tua unwaith y flwyddyn.

"Dwi'n teimlo'n gartrefol yn America ac yn gyfforddus yn y ddwy wlad.

"Ond mewn ffordd dyma gartref," ychwanegodd y brodor o'r Rhos.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific