British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 16:36 GMT 17:36 UK
Geraint yn ymweld 'r Eisteddfod

Geraint Thomas
Roedd Geraint Thomas yn mwynhau ei ymweliad cyntaf i'r Eisteddfod

Bu'r seiclwr Geraint Thomas, enillydd medal aur yng ngemau Olympaidd Beijing, yn ymweld ag Eisteddfod Wrecsam.

Hwn yw ei ymweliad cyntaf erioed â'r Brifwyl a dywedodd bod y profiad yn drawiadol.

Roedd ar y Maes er mwyn hybu ras Etape Cymru, ras feicio newydd 100 milltir sy'n cael ei chynnal yn ardaloedd Wrecsam a Sir Ddinbych.

"Mae'r cynefin yn yr ardal hon yn wych," meddai. "Dwi'n seiclo yn yr ardal yn aml ac mae'r golygfeydd yn grêt."

Mae tad a chariad Geraint yn siarad Cymraeg a dywedodd y byddai'n hoffi dysgu'r iaith ei hun.

"Dwi newydd weld fy hen athro Gymraeg ar y Maes ac yn difaru na wnes i dalu mwy o sylw yn fy ngwersi.

'Dysgu'

"Mae fy nghariad wedi dysgu rhai geiriau i mi.

"Mae'n anodd pan dwi'n canolbwyntio ar fy seiclo ond mae'n rhywbeth y baswn i'n hoffi gweithio arno."

Cafodd Geraint lwyddiant mawr yn ras y Tour de France eleni ond y flwyddyn nesa' bydd yn gorfod penderfynu a fydd yn cymryd rhan yn y ras ai peidio.

"Y Gemau Olympaidd yw fy mhrif nod ar gyfer y flwyddyn nesa," meddai.

"Dwi ddim am wneud dim i beryglu hynny. Dwi am wneud popeth y galla i er mwyn ennill medal."



HEFYD
Ras feicio newydd i'r gogledd
19 Ebr 11 |  Newyddion
Seiclo: Potensial Geraint Thomas
24 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific