British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 13:28 GMT 14:28 UK
Gwraig leol yn derbyn Medal Syr TH Parry-Williams

Sydney Davies
Derbyniodd Sydney Davies Fedal Syr T H Parry-Williams

Cyflwynwyd Medal Syr T H Parry-Williams eleni i Sydney Davies fel cydnabyddiaeth o'i gwaith gwirfoddol.

"Roeddwn i'n nerfus cyn cychwyn ond wedi mwynhau'r diwrnod llawer mwy nag yr oeddwn i'n feddwl," meddai wedi'r seremoni.

Roedd hi'n falch gweld plant o Ysgol Cynddelw yn canu ar y llwyfan fel rhan o'r seremoni.

"Doeddwn i ddim yn gwybod eu bod nhw'n mynd i ganu," meddai.

Mae Sydney wedi hyfforddi sawl cenhedlaeth o blant Ysgol Cynddelw ar gyfer Eisteddfod yr Urdd a'r Genedlaethol.

"Uchafbwynt y seremoni oedd gweld y plant yn dweud helo a diolch fesul un ar y wal fideo," meddai.

'Coron ar y cwbl'

Yn enedigol o Ddolwyddelan mae hi wedi byw yng Nglyn Ceiriog ers 1958.

Mae ganddi bedwar mab, dwy wyres a saith wyr ac roedd y teulu i gyd yn ei gwylio hi'n derbyn y fedal ddydd Mawrth.

"Dwi ddim yn meddwl y gallwn i gael clod uwch.

"Dwi wedi cael fy ngwneud yn aelod o'r Orsedd ond mae hyn yn goron ar y cwbl."

Bydd Sydney'n parhau gyda'i gwaith yn y gymuned.

"Dwi'n dweud 'mod i'n mynd i 'neud llai ond tra 'mod i'n mwynhau bydda i'n dal ati."

Roedd hefyd am ddiolch am y gefnogaeth gafodd yn lleol.

"'Does 'na neb yn gweithio ar ei ben ei hun," meddai.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific