British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 3 Awst 2011, 08:48 GMT 09:48 UK
Dathlu cefnogaeth i'r Eisteddfod

Castell y Waun
Fe fydd yr arddangosfa yng Nghastell y Waun yn dathlu cyfraniad un dyn at yr Eisteddfod

Cafodd darlith yn dathlu cyfraniad un dyn i'r Eisteddfod Genedlaethol pan ymwelodd â Wrecsam yn 1933 ei chynnal ar y Maes.

Bu'r Arglwydd Thomas Howard de Walden yn gefnogwr brwdfrydig o sefydliadau diwylliannol fel yr Eisteddfod pan oedd yn byw yng Nghastell Y Waun.

Roedd y ddarlith gan Yr Athro Hazel Walford Davies yn olrhain ei hanes a hanes y ddrama a gafodd ei llwyfannu yn ystod yr Eisteddfod.

Daeth tua 10,000 o bobl i'r Pafiliwn nos Lun Eisteddfod 1933 i wylio 'Pobun', cyfieithiad T. Gwynn Jones o'r ddrama ganoloesol 'Jedermann'.

Yr Arglwydd de Walden oedd wedi cyfrannu'n ariannol i gynnal y ddrama, £2,000 sydd erbyn hyn yn nes at £70,000.

Ystyriwyd y perfformiad yn un o uchafbwyntiau'r wythnos ac, ar wahân i ddau actor proffesiynol, pobl o ardal Wrecsam oedd yr actorion i gyd.

Ymhlith y rhai yn y gynulleidfa'r noson honno oedd yr actores enwog Y Fonesig Sybil Thorndike.

Dywedodd ei bod yn anodd credu nad actorion proffesiynol oedd y mwyafrif ar y llwyfan.

Yn ogystal â'r ddarlith mae gwaith wedi dechrau ar greu arddangosfa o waith a bywyd Yr Arglwydd de Walden yn ei gyn-gartref.

"Fe fydd yr arddangosfa yn cael ei gynnal mewn ystafell yng Nghastell y Waun lle'r oedd teulu Yr Arglwydd de Walden yn defnyddio i groesawu ei westeion," meddai Emma Thompson o Gastell y Waun.

"Bydd ar agor i'r cyhoedd yn Hydref 2012."

Dywedodd Peter Barton, cadeirydd Stâd Howard de Walden, eu bod fel teulu yn falch iawn ac yn freintiedig iawn i fod yn yr Eisteddfod.

"Rydym yn edmygu de Walden am yr hyn wnaeth o a bod y cwmni yn dal i allu parhau i gefnogi'r Eisteddfod a Chastell y Waun."

Oherwydd y cysylltiadau cryf rhwng yr Eisteddfod Genedlaethol a Chastell Y Waun mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cynnig mynediad am ddim i'r castell i unrhyw un gyda thocyn dilys i'r Eisteddfod.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific