British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 16:35 GMT 17:35 UK
AS yn galw am fancio ar-lein yn Gymraeg

Susan Elan Jones
Ms Jones: 'Hoffwn ddiolch i Gymdeithas yr Iaith am lansio'r ymgyrch bwysig hon'

Mae Aelod Seneddol lleol i'r Eisteddfod wedi lansio ymgyrch dros fancio ar-lein yn y Gymraeg.

Fe wnaeth Susan Elan Jones, Aelod Seneddol Llafur dros Dde Clwyd, ymuno â'r awdures Catrin Dafydd i lansio deiseb ar-lein gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Mae'r ddeiseb yn galw ar fanciau i "gynnig gwasanaeth Cymraeg cyflawn, gan gynnwys gwasanaeth bancio ar-lein llawn yn y Gymraeg".

Dros y misoedd diwethaf, bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lobio HSBC i gychwyn gwasanaeth ar-lein.

Ond dywedodd y gymdeithas eu bod wedi gwrthod newid eu polisi.

Mewn e-bost at y mudiad, fe ddywedon nhw "…nid oes unrhyw gynlluniau i gynnig bancio personol [ar-lein] drwy gyfrwng y Gymraeg ar hyn o bryd, er bod eich sylwadau wedi'u nodi..."

Gwirfoddoli

"Mae'r rhan fwyaf ohonom yn defnyddio banciau o ddydd i ddydd, ond wrth i ragor o ganghennau gau a llyfrau siec dod i ben, mae'n dod yn anos derbyn gwasanaethau yn Gymraeg," meddai Ceri Phillips, llefarydd hawliau'r Gymdeithas.

"Mae'n amhosib bancio ar-lein yn Gymraeg.

"Nid oes un banc yn cynnig gwasanaethau bancio ar-lein yn y Gymraeg, er bod nifer o fentrau sydd yn dibynnu ar wirfoddolwyr yn ei wneud.

"Wrth i ragor o wasanaethau symud ar-lein, mae nifer o gwmnïau a sefydliadau eraill yn anwybyddu'r Gymraeg.

"Eu meddylfryd yw bod y Gymraeg yn rhywbeth ymylol nad oes rhaid ei ddarparu, ond mae galw am y gwasanaeth hwn yn Gymraeg.

"Ers y 1960au, mae'r Gymdeithas wedi sicrhau nifer o wasanaethau dwyieithog ychwanegol, ond wrth i dechnoleg newid, mae rhai o'r buddugoliaethau hynny yn cael eu gwrth-droi."

Dywedodd Ms Jones, ei bod yn credu bod yr amser wedi dod i fanciau gynnig y gwasanaeth yn Gymraeg.

"Hoffwn ddiolch i Gymdeithas yr Iaith am lansio'r ymgyrch bwysig hon.

"Rwy'n gobeithio y bydd y Comisiynydd Iaith newydd yn gallu edrych i mewn i wasanaethau banciau pan gaiff hi neu fe ei benodi. "




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific