British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 09:06 GMT 10:06 UK
Morgannwg yn ymgeisio am brawf

Stadiwm Swalec

Bydd Morgannwg yn dechrau ymgyrch i gael yr hawl i gynnal un o brofion Cyfres y Lludw yn 2013 ddydd Mawrth.

Bydd prif weithredwr y sir, Alan Hamer, yn arwain dirprwyaeth i gyflwyno achos Morgannwg yn Lord's.

Cafodd Caerdydd ei ddewis i gynnal prawf agoriadol y Lludw yn 2009, ond ar ôl cyfadde' y byddai'r sir yn hwyr yn talu ffioedd yn dilyn y gêm brawf yn erbyn Sri Lanka ym mis Mai, collodd Morgannwg yr hawl i gynnal gêm brawf yn erbyn India'r Gorllewin yn 2012.

Dywedodd cadeirydd Morgannwg ar y pryd, Paul Russell, eu bod nhw wedi cael trafferthion gwerthu tocynnau ar gyfer gêm Sri Lanka er eu bod wedi cynnig dros £2 miliwn am yr hawl i'w chynnal.

Hyd yma dim ond Durham a'r Oval yn Llundain sydd wedi eu cadarnhau fel canolfannau i gynnal gemau'r Lludw yn 2013.

Bydd Stadiwm Swalec yn cynnal gêm undydd yn y gyfres yn erbyn India ar Fedi 16, ond fe fydd hefyd yn cynnal o leiaf un gêm brawf, pum gêm ryngwladol undydd ac un gêm ryngwladol 20 pelawd cyn 2016.

Cadarnhaodd Mr Hamer ei fod yn gobeithio denu Awstralia.

"Rydym wedi cyflwyno cais i gynnal Prawf Lludw arall," meddai.

"Yn amlwg, fel bob cae arall, rydym wedi cyflwyno dadleuon, strategaeth a chynllun busnes."

Bydd Caerdydd yn wynebu cystadleuaeth gan gaeau traddodiadol eraill i gynnal gemau prawf - Old Trafford ym Manceinion, Trent Bridge yn Nottingham, Edgbaston yn Birmingham a Lord's ei hun - ynghyd â chaeau fel y Rose Bowl yn Southampton er mwyn ennill yr hawl i gynnal un o'r tri phrawf arall yng nghyfres y Lludw.



HEFYD
Dim gm brawf yn 2012
30 Meh 11 |  Newyddion
Buddugoliaeth wyrthiol i Loegr
30 Mai 11 |  Newyddion
Morgannwg yn gofyn am fwy o arian
17 Chwef 11 |  Newyddion
Y Lludw: '20m o hwb'
13 Gorff 09 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific