British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Awst 2011, 14:28 GMT 15:28 UK
Cefnogaeth i'r Eisteddfod

Leighton Andrews

Roedd Leighton Andrews, y gweinidog sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg, ar Faes yr Eisteddfod ddydd Llun.

Wrth annerch y wasg dywedodd ei fod yn falch o allu ymweld â'r Eisteddfod yn ei swyddogaeth newydd.

"Mae Llywodraeth Cymru, drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn cefnogi'r Eisteddfod a nifer o sefydliadau eraill i hyrwyddo a hwyluso'r iaith a chefnogi ei thyfiant.

"Mae'r Eisteddfod yn chwarae rôl bwysig yn niwylliant Cymru a helpu'r iaith.

"Mae hi'n gyfle gwych i'r bobl ddefnyddio'r iaith ac yn gyfle da i arddangos yr iaith.

Buddsoddiad

"Dwi'n edrych ymlaen at barhau i gydweithio gyda'r Eisteddfod er mwyn sicrhau bod yr iaith yn cryfhau a thyfu."

Dywedodd bod yr Eisteddfod yn bwysig i Lywodraeth Cymru a'u bod yn barod i weithio gyda'r sefydliad i hybu'r defnydd o'r iaith ar draws Cymru.

"Mae pawb yn deall bod y llywodraeth yn wynebu amser anodd yn ariannol ond dwi'n disgwyl parhau gyda'r buddsoddiad yn y dyfodol er mwyn helpu'r bobl i ddefnyddio'r iaith," meddai.

"Yr hyn sy'n bwysig yw gweld canlyniadau pob sefydliad sy'n derbyn arian gan y llywodraeth yn arddangos yr hyn y maen nhw'n ei wneud gyda'r arian i helpu pobl i ddefnyddio'r iaith yn y gymuned.

"Dwi wedi helpu'r Eisteddfod gydag arian ychwanegol ym Mlaenau Gwent ac yn dal i ddisgwyl cyfrannu yn y dyfodol.

"Dwi wedi dweud wrth bob sefydliad yn y grŵp strategol i arddangos be sy'n gweithio orau.

"I mi, mae'n bwysig gweld canlyniadau yn hytrach na chyfres o weithgareddau," ychwanegodd.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific