Mae Archdderwydd Cymru, Jim Parc Nest, wedi galw am edrych eto ar y posibilrwydd o sefydlu papur dyddiol Cymraeg. Dywedodd y Prifardd T James Jones, bod rhaid i'r Senedd yng Nghaerdydd a gwleidyddion yn gyffredinol weithredu i achub y wasg brint Gymraeg a Saesneg yng Nghymru yn wyneb bygythiad. Mae'n poeni am ddyfodol papurau sy'n bodoli'n barod yn sgil toriadau ac na fydd 'na sylw dyddiol i Gymru fel gwlad petai'r cyhoeddiadau yn diflannu gan mai "prin iawn o sylw a roddir i Gymru ar raglenni newyddion teledu a radio o Lundain". "Mae'r mwyafrif llethol yn anwybyddu bodolaeth Cymru fel gwlad," meddai. Mae o hefyd yn galw am ail agor y drafodaeth ynglŷn â'r posibilrwydd o gael papur dyddiol yn y Gymraeg. Cyfathrebu "Rydan ni gyd yn ymwybodol o beryglon sydd i'r cyfryngau, teledu, radio ac yn y blaen, ac S4C yn fwy na dim. "Rydym yn ymwybodol o berygl na fydd gwasg ddyddiol yn cyhoeddi i'r genedl yr hyn sy'n digwydd yn y Senedd ym Mae Caerdydd. "Mae angen i'r Senedd, wrth dderbyn y pwerau deddfu newydd, gael rhyw fath o gyfrwng i gyfathrebu'n gyson yn ddyddiol. "Pe digwydda i'r wasg ddyddiol Gymreig ddiflannu, byddai'n amhosib i lywodraeth Cymru weithredu'n ddemocrataidd." Rhaid hefyd felly ail edrych ar yr angen i gael papur dyddiol Cymraeg meddai. "Dwi'n gobeithio y gall y gwleidyddion ym Mae Caerdydd a Llundain sy'n siarad ar ein rhan, weld y posibilrwydd o gyd-weithio yn y ddwy iaith. "Nid cael papur dwyieithog yw fy ngalwad, ond sicrhau bod 'na gyfrwng ar gael yn ddyddiol yn y wasg i gyhoeddi be' mae'r Senedd yn ei wneud yng Nghymru yn y Gymraeg a Saesneg." Oherwydd cawod drom o law bu'n rhaid cynnal Seremoni i Agor yr Orsedd yn swyddogol yn y Babell Lên yn hytrach na ger Cerrig yr Orsedd ar y Maes. Fe wnaeth yr Archdderwydd hefyd gydymdeimlo gyda theulu'r diweddar Archdderwydd Geraint a fu farw ym mis Gorffennaf.
|