British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 2 Awst 2011, 15:04 GMT 16:04 UK
Salsa a bwyd Sbaen yn y Stiwt

Phyl Harries
Bydd Phyl Harries yn dawnsio yn ogystal ag actio yn ei ddrama newydd

Fe fydd yr actor Phyl Harries yn dychwelyd i lwyfan Theatr y Stiwt gyda drama fydd yn gofyn am sgiliau dawnsio yn ogystal ag actio.

Yn ystod wythnos yr eisteddfod bydd y drama Salsa yn cael ei chynnal yn y theatr yn Rhosllannerchrugog, ger Wrecsam.

Dywedodd Phyl bod actio yn Salsa yn "dipyn o hwyl".

"Mae Salsa yn noson dda iawn ac er ei bod yn Gymraeg fe fyddwn i'n dweud ei bod yn addas ar gyfer dysgwyr o bob safon hefyd," meddai.

Er mwyn paratoi'r gynulleidfa at noson o hwyl Sbaeneg bydd y bwyty La Tasca yn darparu tapas a paella tan 7pm cyn i'r ddrama ddechrau.

Mae'r ddrama'n adrodd stori Wayne a Rhian sy'n ymuno â dosbarth salsa er mwyn ceisio colli pwysau cyn dechrau teulu.

Ar daith

Ond mae Rhian yn brifo ei phigwrn ac yn methu mynd ymlaen â'r gwersi.

Mae Wayne yn parhau gyda'r dosbarth gydag annogaeth yr athrawes, Adela Vega, a chyn bo hir mae'n dod i werthfawrogi ei sylw hi ychydig ormod.

Caiff y gynulleidfa eu cadw ar bigau yn aros i weld os wnaiff Wayne ddewis ei wraig neu'r athrawes drawiadol.

Mae'r ddrama'n gyd-gynhyrchiad rhwng Theatr Na n'Og a Theatr Mwldan a bydd yn mynd ar daith ym mis Hydref.

Eglurodd Phyl Harries ei fod yn edrych ymlaen at ddychwelyd i'r Stiwt.

"Dwi wedi bod mewn sawl cynhyrchiad yno o'r blaen.

"Pob tro dwi wedi cael croeso cynnes gan gynulleidfaoedd Rhos," meddai.

Bydd Salsa yn Theatr y Stiwt rhwng Awst 2-5.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific