British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011, 17:38 GMT 18:38 UK
PÍl droediwr wedi ei gyhuddo o dreisio

Ched Evans
Y bydd Ched Evans a dyn arall yn ymddangos gerbron ynadon Prestatyn ar Awst 8

Mae'r pêl-droediwr rhyngwladol, Ched Evans, wedi'i gyhuddo o dreisio.

Arestiwyd y pêl-droediwr 22 oed, sydd wedi ennill 22 o gapiau dros ei wlad, yn dilyn digwyddiad honedig yn Y Rhyl, Sir Ddinbych ar Fai 31 eleni.

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru y bydd ef a dyn arall yn ymddangos gerbron ynadon Prestatyn ar Awst 8.

Mae Mr Evans yn gwadu'r cyhuddiad.

Gwnaeth Mr Evans ddatganiad trwy ei dîm cyfreithiol ar wefan ei glwb, Sheffield United, er nad oedd y 'Blades' yn fodlon gwneud unrhyw sylw pellach.

'Syndod'

Dywedodd tîm cyfreithiol y seren bêl-droed gwerth £3m: "Rydym yn cadarnhau bod Ched Evans wedi'i gyhuddo o drais gan Heddlu Gogledd Cymru'r wythnos hon.

"Mae Ched wedi penderfynu gwneud yr wybodaeth hon yn gyhoeddus o'i wirfodd am ei fod yn dymuno mynegi ei syndod a'i siom aruthrol o gael ei gyhuddo o'r drosedd hon."

Aeth y datganiad ymlaen i ddweud ei fod yn gwadu'r cyhuddiad yn llwyr, y byddai'n mynd ati i achub ei gam, a'i fod yn hyderus y byddai'n cael ei ddyfarnu'n gwbl ddieuog ac yn clirio'i enw'n llwyr.

Gadawodd y saethwr o Lanelwy'r fainc i chwarae i Gymru am y tro cyntaf, gan sgorio'r gôl a sicrhaodd fuddugoliaeth 2-0 yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Gwlad yr Iâ ym Mai 2008.

Dringodd i fyny'r rhengoedd gyda thîm Uwch-gynghrair Manchester City, cyn treulio amser ar fenthyg i Norwich City.

Gwerthu

Ar ôl dychwelyd i Stadiwm Etihad, cafodd ei werthu'n ddiweddarach i Sheffield United yn 2009 am £3m, ond ni allai achub y clwb rhag disgyn i Gynghrair Un y tymor diwethaf.

Mae'r clwb yn barod i werthu Mr Evans am lai o arian na'u prisiad o £1.5m i ostwng bil cyflogau'r clwb, ac mae wedi'i gysylltu â thimau Cynghrair y Pencampwyr Ipswich, Caerdydd a Middlesborough.

Ni oedd yn chwarae yn y gêm gyfeillgar yn erbyn Blackpool ddydd Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gogledd Cymru: "Mae dyn 22 oed o Crewe a dyn 22 oed o'r Rhyl wedi'u cyhuddo o drais.

"Arestiwyd y ddau ddyn ar amheuaeth o drais ar Fai 31 a chawsant eu cyhuddo o'r drosedd ar Ddydd Mawrth Gorffennaf 26.

"Mae'r ddau wedi'u mechnïo i ymddangos gerbron ynadon Prestatyn ar ddydd Llun, Awst 8."



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific