British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011, 16:15 GMT 17:15 UK
Morgannwg: Cadeirydd yn ymddiswyddo

Paul Russell
Dywedodd Mr Russell ei fod wedi penderfynu camu yn ôl o'i swydd er lles y clwb

Mae Cadeirydd Clwb Criced Morgannwg Paul Russell wedi ymddiswyddo ar sail iechyd.

Mae aelod o bwyllgor y clwb, Barry O'Brien, wedi ei apwyntio fel cadeirydd dros dro.

Bydd Nigel Roberts, oedd i fod i gymryd yr awenau fel cadeirydd y clwb yn ddiweddarach eleni, yn aros yn ddirprwy.

Dywedodd Mr Russell ei fod wedi penderfynu camu yn ôl o'i swydd er lles y clwb.

Y Lludw

"Bydd fy mhenderfyniad i gamu yn ôl yn gynt na'r disgwyl yn galluogi'r clwb i fwrw ymlaen i sicrhau eu dyfodol hir dymor," meddai Mr Russell, sydd wedi bod yn gadeirydd y clwb ers 2003.

Mr Russell oedd wrth y llyw pan fuddsoddwyd £10 miliwn i ailddatblygu cartref y clwb, Gerddi Soffia gan sicrhau bod y maes yn gallu cynnal gemau prawf.

Cynhaliwyd y gêm brawf gyntaf ar y maes ym mis Gorffennaf 2009 pan chwaraeodd Lloegr yn erbyn Awstralia yng ngêm gyntaf cyfres Y Lludw.

Ym mis Mehefin eleni, collodd Morgannwg yr hawl i lwyfannu un o emau prawf rhwng Lloegr ac India'r Gorllewin yn 2012.

Dywedodd Prif Weithredwr Morgannwg, Alan Hamer, fod cyfraniad Russell at y clwb wedi bod yn "anferth".

"O ran y clwb hoffwn ddiolch Paul am ei weledigaeth ac ymrwymiad," meddai Mr Hamer.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific