Mae pobl wedi gadael teyrngedau ar dudalen Facebook
|
Mae cannoedd o bobl wedi talu teyrnged i fachgen 12 oed o Bowys a fu farw ar ôl iddo gael ei fwrw gan ffram gôl wrth chwarae pêl-droed. Mae pobl wedi gadael teyrngedau ar dudalen Facebook a gafodd ei chreu ar gyfer Casey Breese, oedd yn ddisgybl yn Ysgol Uwchradd Y Drenewydd. Mae nifer o berthnasau a ffrindiau Casey eisoes wedi gadael negeseuon ar y dudalen. Dywed yr heddlu fod Casey yn chwarae pêl-droed gyda bechgyn lleol ar gae chwarae yng Nghaersws ddydd Gwener pan gwympodd y pyst arno. Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod y pyst gôl yn cael eu harchwilio wedi "marwolaeth drist". Ychwanegodd y llefarydd nad oedd amgylchiadau amheus ynglŷn â'r farwolaeth. Cymorth Aeth hofrennydd ambiwlans awyr â Casey i Ysbyty Brenhinol Yr Amwythig lle bu farw o'i anafiadau. "Mae'r plant oedd yn chwarae ar y cae ar y pryd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad a bydd heddwas sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig yn siarad gyda'u teuluoedd," meddai llefarydd yr heddlu.
Gadawyd crys pêl droed ar y cae er cof am Casey Breese Ddydd Sadwrn
Mae swyddog cyswllt yn rhoi cymorth i'r teuluoedd ac mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad. Dywedodd y Ditectif Arolygydd Ian Andrews fod yr heddlu yn cydweithio ag adran iechyd yr amgylchedd Cyngor Powys. "Rydyn ni'n cydymdeimlo â'r teulu sydd wedi dioddef y colled arswydus yma." Mae crwner Powys wedi ei hysbysu am y farwolaeth. Cafodd gêm gyfeillgar rhwng Clwb Pêl-Droed Caersws a Chlwb Pêl-Droed Caerfyrddin ei chanslo ddydd Sadwrn fel arwydd o barch. Dywedodd is-gadeirydd Clwb Pêl Droed Caerfyrddin, Robert Lloyd: "Cawsom gais yn hwyr yn y dydd ddoe wedi'r drychineb i ganslo'r gêm. "Yn naturiol fe gytunon ni ac yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i bawb sydd wedi'u heffeithio."
|