British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 1 Awst 2011, 10:51 GMT 11:51 UK
Lansio cynllun Cydymaith i Gerddoriaeth

Canu carolau
Bydd y llyfr yn cynnwys cofnod manwl ar bob arddull o ganu

Mae prosiect fydd yn arwain at gyhoeddi cyfeirlyfr awdurdodol o'r enw Y Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru yn cael ei lansio ddydd Llun.

Nod y Cydymaith fydd cwmpasu holl gerddoriaeth Gymraeg a Chymreig.

Ysgol Gerddoriaeth Prifysgol Bangor sy'n arwain y prosiect, gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Fe fydd y llyfr yn cael ei lansio ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Bydd yn cynnwys cofnod manwl ar bob arddull o ganu, o ganu gwerin i ganu pop
Dr Pwyll ap Siôn

Dywedodd cydlynydd y prosiect, Dr Pwyll ap Siôn, uwch-ddarlithydd yn Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor:

"Mae'r gyfrol am geisio cynnwys a chyfeirio at bob arddull o gerddoriaeth o'r cynnar at y cyfoes; o'r traddodiadol i'r modern.

"Bydd yn cynnwys cofnod manwl ar bob arddull o ganu, o ganu gwerin i ganu pop.

Cyfansoddwyr

"Bydd yn rhoi sylw i gantorion, cerddorion, unawdwyr opera a cherddorfeydd ac i ganolfannau, cymdeithasau a gwyliau cerdd sydd wedi bod yn ganolog yn natblygiad cerddoriaeth Cymru.

"Bydd yn edrych hefyd ar gyfryngau newydd megis traciau sain ar gyfer y sgrin a'r sinema, ac yn y blaen.

"Yn wir, bydd yn cwmpasu pob math o gerddoriaeth sydd wedi cael ei fwynhau gan glustiau'r Cymry, neu'n cael ei fwynhau ar hyn o bryd."

Bydd Dr Ap Siôn yn cydweithio gydag ysgolheigion, haneswyr, cyfansoddwyr, cerddorion a chymdeithasegwyr mewn rhai o sefydliadau addysg uwch Cymru er mwyn cyflawni'r Cydymaith - a'r bwriad yw ei gyhoeddi yn 2013-14.

Dywedodd Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: "Mae'n holl-bwysig ein bod yn adeiladu corff o waith ysgolheigaidd yn y Gymraeg fel fod gan fyfyrwyr ac ymchwilwyr y deunyddiau craidd priodol ar gyfer eu gwaith ymchwil o ddydd i ddydd.

"Edrychwn ymlaen fel coleg at gydweithio gyda Pwyll ap Siôn a'r tîm mewn perthynas â'r prosiect pwysig hwn a fydd yn gwneud cyfraniad pwysig at gynyddu'r corff o gyhoeddiadau Cymraeg."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific