British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Gorffennaf 2011, 10:16 GMT 11:16 UK
Eglwys ym mhentref Maerdy ar werth am £1,000

Eglwys Yr Holl Saint, Maerdy, Y Rhondda
Mae pobl Maerdy wedi addoli yn Eglwys Yr Holl Saint er 1885.

Mae ymgyrchwyr sy'n brwydro i arbed eglwys yn y Rhondda rhag cau wedi cael cynnig i brynu'r adeilad am £1,000 yn hytrach na'i gwerth marchnad o £25,000.

Mae selogion wedi gwrthod gadael Eglwys Yr Holl Saint ym mhentref Maerdy ar ôl yr oedfa olaf a gafodd ei chynnal yno ar Orffennaf 3.

Dywedodd Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, ei fod yn rhoi cyfle i brotestwyr achub yr eglwys sydd angen £400,000 i'w hadfer.

Ychwanegodd y gallai'r Eglwys yng Nghymru werthu'r adeilad am £1,000 pe bai'r adeilad yn cael ei defnyddio fel man addoli.

Pleidleisiodd y Cyngor Plwyf Eglwysig (CPE), sy'n cynnwys aelodau eglwysi Maerdy, Glynrhedynog a Thylorstown, gau Eglwys yr Holl Saint yn gynharach eleni.

Ond penderfynodd cangen Maerdy ymatal rhag bwrw pleidlais ynglŷn â'r mater.

Pris y farchnad

Eisoes mae'r CPE wedi gwrthod cynnig gan ymgyrchwyr i'w galluogi addoli yn yr eglwys am 12 mis arall.

Ond Ddydd Gwener cadarnhaodd Yr Eglwys yng Nghymru eu bod yn cynnig gwerthu'r adeilad i'r ymgyrchwyr am £1,000.

Dywedodd Dr Morgan: "Rwy'n rhoi'r cyfle i brotestwyr ym Maerdy achub Eglwys Yr Holl Saint rhag cau.

"Maen nhw'n hyderus y gallan nhw godi digon o arian i adfer a chynnal yr adeilad a dim ond £1,000 ychwanegol fe fydd rhaid iddynt godi i brynu'r eglwys.

"Mae hwn yn gyfle gwych oherwydd y gymuned fyddai'n berchen yr eglwys."

Gwnaeth Dr Morgan grybwyll y syniad o werthu'r eglwys i'r gymuned am lai na phris y farchnad mewn cyfarfod o'r CPE ar Orffennaf 19.

Mae pobl Maerdy wedi addoli yn Eglwys Yr Holl Saint er 1885.



HEFYD
Aelodau yn gwrthod symud o eglwys
04 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific