British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Gwener, 29 Gorffennaf 2011, 13:37 GMT 14:37 UK
Rhestr hir gwobr Artes Mundi

Oriel Mostyn, Llandudno
Bydd un artist yn arddangos gwaith yn Mostyn, Llandudno

Mae dros 750 o enwebiadau wedi'u derbyn ar gyfer gwobr Artes Mundi, sydd â'i chartref yng Nghymru.

Mae 576 o artistiaid o dros 90 gwlad yn ceisio ennill y wobr, sy'n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru ac yn cael ei chynnal bob dwy flynedd.

Gwobr Artes Mundi yw'r wobr gelf fwyaf yn y DU, gyda'r artist buddugol yn derbyn £40,000 a'r pump arall ar y rhestr fer yn derbyn £4,000.

'Cyffroi'n lân'

Yn ôl Ben Borthwick, Cyfarwyddwr Artistig Artes Mundi, "Mae'r enwebiadau wedi cynyddu dros 50% ac mae'r artistiaid yn hanu o bron hanner gwledydd y byd.

"Mae dyfnder ansawdd yr enwebiadau wedi bod yn neilltuol, ac mae Artes Mundi 5 yn argoeli'n arbennig o gyfoethog o ran hanesion profiadau y mae pobl wedi byw drwyddynt a hynny o bob cwr o'r byd.

"Rwyf wedi fy nghyffroi'n lân ac yn hyderus y bydd cynulleidfaoedd yn rhannu'r un profiad pan fyddan nhw'n ymweld â'r arddangosfa".

Mae'r dasg o chwynnu drwy'r rhestr hir o enwebiadau i'r llond dwrn a fydd yn cael eu gwahodd i arddangos eu gwaith yng Nghaerdydd yn syrthio i ran dau guradur, Sofía Hernández Chong Cuy ac Anders Kreuger.

Yn ôl Anders Kreuger: "Fel curadur celf gyfoes rwyf bob amser yn ddiolchgar am gyfleoedd i wneud ymchwil fanwl newydd. Cyfle o'r fath yw llunio rhestr fer Artes Mundi: mae'n fraint ac yn gyfrifoldeb y mae'n rhaid ymgymryd ag ef o ddifri.

"Mae bron i 600 o artistiaid wedi cael eu henwebu eleni ac felly mae'n her i ddethol chwech neu saith o blith yr unigolion hynod galluog hyn. Ond rwyf yn sicr y byddwn yn gallu cyflwyno rhai o'r artistiaid gorau o wahanol genedlaethau o bedwar ban byd, yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf."

Rhestr fer

Bydd rhestr fer Artes Mundi'n cael ei chyhoeddi yn Llundain a Chaerdydd ym mis Hydref 2011.

Mae'r wobr wedi ffurfio partneriaeth newydd gydag Oriel Mostyn yn Llandudno, fydd yn rhoi cyfle newydd i bobl gogledd Cymru gael gweld peth o'r gwaith.

Bydd prif arddangosfa Artes Mundi 5 yn cael ei osod mewn 800 metr sgwâr o orielau yn Amgueddfa Gelf Genedlaethol Cymru o dan do'r Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd.

Enillydd gwobr Artes Mundi yn 2010 oedd Yael Bartana, a fydd hefyd yn cynrychioli Gwlad Pwyl yng ngŵyl Venice Biennale yn 2011.



HEFYD
'Rhyddhad' i'r celfyddydau?
16 Rhag 10 |  Newyddion
Gwaith artistiaid Artes Mundi
10 Maw 10 |  Newyddion
Gwobr 40,000 i artist o Israel
19 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific