Roedd llawer yn dweud fod pobl yn syllu arnyn nhw wrth fwydo'n gyhoeddus
|
Mae Cymru yn un o'r lleoedd gwaethaf yn y DU i fwydo o'r fron yn ôl arolwg newydd. Dywed yr arolwg - gan gwmni Philips Avent - fod llai nag un o bob pump o famau newydd yng Nghymru yn teimlo fod ganddyn nhw'r gefnogaeth gan gyflogwyr i barhau i fwydo o'r fron wedi iddyn nhw ddychwelyd i'r gwaith. Dywedodd mwy na dwy o bob tair a gafodd eu holi fod pobl yn syllu'n agored arnyn nhw os oedden nhw'n bwydo'u babanod yn gyhoeddus. Roedd 29% yn cyfaddef eu bod yn cuddio mewn toiledau cyhoeddus er mwyn bwydo'u plant. Canfyddiadau Cafodd bron 3,000 o famau newydd eu holi ar gyfer yr arolwg, ac ymhlith y canfyddiadau eraill oedd: - Roedd 70% o famau sy'n gweithio wedi dymuno bwydo'u babanod o'r fron am gyfnod hirach nag y gwnaethon nhw;
- Mae 6 o bob 7 mam yn credu na fyddai eu cyflogwyr yn cymeradwyo petai nhw'n pwmpio llaeth yn y gweithle;
- Roedd tua 80% yn credu y byddai eu cydweithwyr ddim yn cymeradwyo hynny;
- Roedd un o bob chwech yn cyfaddef eu bod yn poeni cymaint am y peth fel eu bod yn gadael eu babanod i sgrechian yn hytrach na'u bwydo'n gyhoeddus.
Cyswllt unigryw
 |
Ardaloedd gwaethaf i fwydo
1. Dwyrain Anglia
2. Sir Efrog a'r Humber
3. Gogledd-ddwyrain Lloegr
4. Cymru a'r Alban (yn gydradd)
|
Roedd yr arolwg hefyd yn dangos fod tri chwarter y mamau a holwyd am fwydo o'r fron gan eu bod yn teimlo mai dyna fyddai orau i sustem imiwnedd ac iechyd eu plant. Roedd 67% hefyd yn dweud fod y profiad o fwydo o'r fron wedi creu cyswllt unigryw ac agos rhyngddyn nhw a'u babanod. Dywedodd Vicki Scott, ymgynghorydd bwydo Philips Avent:
 |
Ardaloedd gorau
4. Dwyrain Canolbarth Lloegr
5. Gorllewin Canolbarth Lloegr
Ffynhonnell: Arolwg One Poll a Braun Research4
|
"Mae bwydo o'r fron yn rhywbeth i fod yn falch ohono, a dylai mamau ddim peidio gwneud rhywbeth sy'n cael effaith mor bositif ar y babi a'r fam. "Gweld mamau yn mynd allan a gwneud hyn yw'r unig ffordd o newid agweddau fel y gall bwydo o'r fron gael ei weld fel y peth hollol normal y mae o."
|