British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sadwrn, 30 Gorffennaf 2011, 09:44 GMT 10:44 UK
Arddangos Cadair Eisteddfod Ddu Wrecsam 1876

Cadair ddu Eisteddfod 1876
Gellir gweld y gadair wedi ei gorchuddio gan frethyn du yn y llun yma o 1876

Mae'r Gadair Ddu eisteddfodol cyntaf erioed i'w weld ar hyn o bryd yn Llyfrgell Wrecsam.

Mae'n gynharach o lawer na chadair enwocach Eisteddfod Penbedw a enillwyd gan Hedd Wyn 1917.

Taliesin o Eifion
Roedd Taliesin o Eifion wedi anfon ei awdl ddiwrnod cyn ei farwolaeth

Thomas Jones (Taliesin o Eifion) oedd enillydd y Gadair yn Eisteddfod Wrecsam yn 1876.

Ond roedd wedi marw ddiwrnod ar ôl anfon ei awdl fuddugol at y gystadleuaeth.

"Mae'n gadair hardd, cadair dderw fawr yn yr hen draddodiad," meddai Hedd ap Emlyn, Llyfrgellydd Sir Wrecsam.

"Mae wedi ei cherfio'n gain gydag arfbais frenhinol ar dop ei chefn, dail derw a symbolau derwyddol."

Ganed Taliesin o Eifion yn Llanystumdwy ond bu'n byw yn Llangollen am sawl blwyddyn.

Crefftwr lleol

Fe anfonodd ei awdl i'r eisteddfod ar ddiwrnod olaf mis Mai 1876 a bu farw'r bore canlynol yn 56 mlwydd oed.

Yn ôl y chwedl, gyda'i anadl olaf fe ofynnodd a oedd yr awdl wedi cyrraedd yn ddiogel.

Cadair ddu Eisteddfod 1876
Crefftwr o Langollen a wnaeth Cadair Eisteddfod 1876

Roedd y crefftwr a wnaeth y gadair, John Roberts, hefyd yn byw yn Llangollen.

"Mae disgynyddion i John Roberts dal yn fyw," meddai Hedd ap Emlyn.

"Yn ddiweddarach mis yma bydd y teulu'n dod o Gaerdydd i weld y Gadair oherwydd, yn ôl pob sôn, mae 'na draddodiad yn y teulu bod nhw'n ceisio cael rhywun o bob cenhedlaeth i eistedd ynddi hi.

"Mae 'na fab 10 oed yn dod i eistedd yn y gadair a wnaed gan ei hen hen hen dad-cu."

Mae'r gadair wedi cael ei benthyg gan Wasanaeth Treftadaeth Sir Dinbych a bydd i'w gweld yn Llyfrgell Wrecsam am dri mis.

"Mae'n gadair hyfryd a gwerth ei gweld," ychwanegodd Hedd ap Emlyn.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific