Roedd Mr Hamilton yn ymweld â theulu yn y de
|
Mae'r heddlu sy'n ymchwilio i farwolaeth dyn y daethpwyd o hyd iddo ar ymyl y ffordd yn amau achos taro a ffoi. Daethpwyd o hyd i gorff Ian Hamilton, 27 oed o Fryste, ger Pontllanfraith yn Sir Caerffili yn gynnar ar Orffennaf 17. Mae'r heddlu wedi siarad â gyrwyr dau gar welwyd ar gamerâu cylch cyfyng rhwng 2am a 4am y diwrnod hwnnw ond maen nhw eisiau siarad â gyrrwr BMW 3. Roedd Mr Hamilton yn ymweld â'i deulu. Dylai unrhywun oedd yn teithio ar Heol Penmaen y bore dan sylw gysylltu gyda Heddlu Gwent. Dywedodd yr heddlu: "Rydym yn cadw meddwl agored ynghylch sut y bu farw Mr Hamilton ...". Dylai unrhywun â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101.
|