Argraffiad arlunydd o'r orsaf bŵer sy'n cael ei hadeiladu yn Noc Penfro
Dywed Cyfeillion y Ddaear fod ganddynt ddogfennau sy'n dangos pryder swyddogol ynglŷn â rhoi trwydded i bwerdy newydd yn Sir Benfro. Yn ôl y grŵp amgylcheddol mae llythyr gan Lywodraeth Cymru i'r Asiantaeth Amgylchedd yn sôn am bryderon ynglŷn â'r safle 2000 megawat yn Noc Penfro. Dywed Cyfeillion y Ddaear y gallai'r datblygiad niweidio bywyd môr mewn ardal gadwriaethol. Bydd yn rhaid i'r pwerdy gael trwydded gan Asiantaeth yr Amgylchedd cyn dechrau cynhyrchu trydan. Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r broses o benderfynu rhoi trwydded wedi cyrraedd y cam olaf. "Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ambell i beth lle maen nhw'n teimlo bod angen rhoi mwy o eglurdeb neu mwy o fanylion i'r Asiantaeth Amgylchedd neu Cyngor cefn gwlad Cymru. "Bydd angen hyn cyn gallu dod i benderfyniad terfynol. Caniatâd cynllunio "Mae asesu'r gwahanol ffactorau wedi golygu ystyriaeth eang i faterion technegol a chyfreithiol." Ym mis Mehefin 2010 fe wnaeth Cyfeillion y Ddaear fynd â'u hachos i'r Comisiwn Ewropeaidd. Penderfynodd Adran Ynni a Newid Hinsawdd San Steffan roi caniatâd cynllunio ym mis Chwefror 2009. Dywed Cyfeillion y Ddaear na ddylid caniatáu i ddŵr gwastraff o'r pwerdy gael ei ollwng i'r môr. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mai 2009 ac mae disgwyl i'r safle fod wedi'i gwblhau erbyn 2012, gan ddod â thua 100 o swyddi. Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Cefn Gwlad Cymru: "Mae'r Cyngor Cefn Gwlad yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan orsafoedd pŵer nwy o ran sicrhau ynni wrth i ni droi ein golygon i gyfeiriad ynni adnewyddadwy. "Ond dydyn ni heb ein darbwyllo y dylid caniatáu'r system oeri sy wedi'i chynnig. "Mae angen dod o hyd i ffordd arall a fydd yn bodloni anghenion ymarferol yr orsaf bŵer a hefyd yn diogelu Dyfrffordd Aberdaugleddau".
|