British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011, 16:16 GMT 17:16 UK
Pobl leol yn ymweld 'r brifwyl

Nia Tudur yn holi Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod
Elfed Roberts yn cael ei holi ar y Maes

Fe wnaeth tua 4,500 o bobl Sir Wrecsam fanteisio ar gynnig gan yr Eisteddfod Genedlaethol am docynnau i'r Maes ar y penwythnos cyntaf.

Roedd yr Eisteddfod yn cynnig dau docyn am bris un i bobl o fewn Sir Wrecsam.

Fe gafodd y Brifwyl gymorth ariannol o £25,000 gan Lywodraeth y Cynulliad.

Roedd yr arian ar gyfer 2,500 o docynnau ac fe wnaeth yr Eisteddfod gynnig 2,000 mwy.

Mae'r cynnig yn cyfrannu at fwriad y Brifwyl i hyrwyddo'r penwythnos cyntaf fel un ar gyfer y teulu.

"Roedd y cynllun yn rhoi cyfle i bobl sydd efallai ddim wedi bod mewn Eisteddfod, erioed wedi gweld be sy'n digwydd yma, i gael blas," meddai Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol.

"Fues i'n siarad efo rhai pobl oedd wedi manteisio ar y cynnig ac roedden nhw wedi cael blas ac yn bwriadu dychwelyd."

Profiad

Dywedodd ei fod yn ymwybodol ei bod hi'n anodd i rai teuluoedd yn ariannol ddod i'r Eisteddfod a'u bod yn ceisio eu denu drwy gynlluniau amrywiol.

"Yn sicr mae'r cynllun yma wedi bod yn hwb yn yr ardal yma," ychwanegodd Mr Roberts.

Y llynedd roedd yr Eisteddfod wedi targedu pobl Blaenau Gwent a Blaenau'r Cymoedd gyda thocyn am ddim ar y Sul i'r rhai oedd yn byw o fewn awr i'r Maes.

"Fe fyddai gwneud hynny eleni wedi cyrraedd Gwynedd ac felly fyddai o ddim yn gweithio, a'r bwriad oedd i dargedu pobl sydd erioed wedi bod mewn Eisteddfod, ddim yn dod i gysylltiad dyddiol gyda'r iaith Gymraeg," eglurodd Mr Roberts.

"Mae teilwra'r cynllun yma wedi gweithio yn arbennig o dda."

Dywedodd nad oedd yn gwybod be allai ddigwydd yn y dyfodol oherwydd yr hinsawdd economaidd.

"Mae'n bwysig ein bod hi'n rhoi abwyd i bobl sydd ddim yn gyfarwydd â'r iaith Gymraeg â'r diwylliant i weld be sydd yma ac i bobl sylweddoli bod y Gymraeg yn iaith fyw," meddai Mr Roberts.

Fe wnaeth amddiffyn pris y tocynnau eleni, sy'n £17 i oedolyn; £15 i bensiynwr, £10 i blant 12-18 oed a £5 i rai dan 12 oed.

"Mae prisiau wedi cynyddu eleni gan fod treth ar werth wedi codi ac mae'n rhaid i ninnau basio'r cynnydd hwnnw ymlaen gan fod y Canghellor eisiau'r arian," meddai.

"Rydym o hyd yn edrych a gwrando ar be sydd gan bobl i'w ddweud ac yn fodlon trafod unrhyw syniadau."




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific