British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Iau, 28 Gorffennaf 2011, 10:24 GMT 11:24 UK
Wrecsam: Savage yn poeni am y dyfodol

Robbie Savage
Mae Robbie Savage yn hanu o Wrecsam

Mae cyn chwaraewr canol cae Cymru Robbie Savage yn dweud fod ganddo ddiddordeb buddsoddi mewn consortiwm i brynu Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Yn gynharach eleni cyhoedded perchnogion y cwlb - Geoff Moss ac Ian Roberts - eu bod am werthu'r clwb a'r Cae Ras.

Ond mae dyfodol Wrecsam yn dal yn y fantol wrth i dymor newydd nesáu.

Dywedodd Savage, sy'n hanu o'r dref, nad oedd am weld y clwb yn mynd i'r gwellt.

"Mae Wrecsam yn glwb gwych a phe byddai'r arian gen i y byddwn i'n prynu'r clwb ond does gen i ddim digon o arian," meddai Savage, oedd yn cefnogi'r clwb pan oedd yn llanc.

"Dwi ddim yn gwybod faint o arian sydd ei hangen i brynu Wrecsam ond byddwn i'n fodlon buddsoddi yn y clwb pe bai 100 o bobl eraill yn buddsoddi £10,000 neu £20,000," ychwanegodd.

"Os oes yna ddyn busnes cyfoethog yng ngogledd Cymru sy'n fodlon siarad gyda fi am brynu'r clwb y byddwn i'n ystyried chwarae fy rhan."

Yn ddiweddar bu'r perchnogion yn cynnal trafodaethau gyda chefnogwyr sydd am brynu'r clwb.

Mae son bod diffyg cytundeb rhwng y ddwy ochr a bod y perchnogion wedi dechrau trafod â dwy garfan arall.

Eisoes mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi dweud wrth y perchnogion na allan nhw daro cytundeb cyn diwedd mis Gorffennaf.



HEFYD
Clwb: Trafod dwy garfan newydd
27 Gorff 11 |  Newyddion
Dyfodol clwb Wrecsam 'mewn peryg'
14 Gorff 11 |  Newyddion
Tynnu cefnogaeth ariannol yn l
24 Mai 11 |  Newyddion
Tynnu cais i brynu clwb yn l
11 Mai 11 |  Newyddion
Clwb yn llwyddo i dalu 200,000
28 Ebr 11 |  Newyddion
Wrecsam: Cyfarfod brys
18 Ebr 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific