Cafodd Ben a Catherine Mullany eu llofruddio ym mis Gorffennaf 2008
Mewn llys yn Antigua fe gafwyd dau ddyn - Avie Howell a Kaniel Martin - yn euog o ladd cwpl priod o Gymru oedd ar eu mis mêl yn y Caribî.
Fe gafodd Ben a Catherine Mullany eu saethu yn eu gwesty ar ynys Antigua yn 2008.
Roedd Kaniel Martin, 23 oed, ac Avie Howell, 20 oed, wedi gwadu eu llofruddio.
Bu'r rheithgor yn ystyried am 10 awr.
Cafwyd y ddau yn euog hefyd o lofruddio gweithiwr siop leol, Wometa Anderson.
Y barnwr, Mr Ustus Richard Floyd, fydd yn penderfynu dedfryd y ddau ddyn ar Fedi 26.
Y gosb eithaf
Mewn datganiad y tu allan i'r llys fe ddywedodd rhieni Mr a Mrs Mullany eu bod nhw'n "teimlo rhyddhad" wedi'r dyfarniad.
Avie Howell a Kaniel Martin ar ôl iddyn nhw gael clywed eu bod yn euog o lofruddio
Mae'r gosb eithaf yn dal yn rhan o system gyfreithiol Antigua ond does dim un carcharor wedi colli ei fywyd ers 20 mlynedd.
Fydd Howell ddim yn wynebu'r gosb eithaf am ei fod yn 17 oed pan laddodd Mr a Mrs Mullany.
Ond gallai Martin wynebu'r gosb eithaf am ei fod yn 20 oed pan laddodd y cwpl.
Dywedodd datganiad ar ran teuluoedd Mr a Mrs Mullany: "Does dim gorfoledd wedi'r dyfarniad heddiw dim ond y gollyngdod bod ein plant wedi cael cyfiawnder ar ôl tair blynedd.
"Rydyn ni'n gobeithio na fydd y ddau unigolyn hyn yn gorfodi unrhyw deulu arall i ddioddef yr un ing a dioddefaint rydyn ni wedi eu dioddef ...
"Fe fydd Ben a Cath yn ein calonnau am byth. Fe wnaethon nhw gyfoethogi ein bywydau bob dydd."
'Tystiolaeth'
Yn gynharach dywedodd y barnwr wrth y rheithgor yn Uchel Lys yr ynys y dylai'r dyfarniad fod "ar sail y dystiolaeth yn unig".
Ychwanegodd y barnwr na ddylai'r rheithgor gael eu dylanwadu gan "bwysau'r cyhoedd, rhagfarn, cydymdeimlad nac ofn".
Cafodd Mr a Mrs Mullany eu llofruddio ar ddiwrnod olaf eu mis mêl ar Orffennaf 27, 2008.
Bu farw Mrs Mullany - oedd newydd ennill cymwysterau i fod yn feddyg - yn syth.
Roedd ei gŵr yn astudio i fod yn ffisiotherapydd a bu farw wythnos yn ddiweddarach mewn ysbyty yng Nghymru.
Mae tua 90 tyst wedi rhoi tystiolaeth yn ystod yr achos, bob un ohonyn nhw wedi eu galw gan yr erlyniad.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.