British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 31 Gorffennaf 2011, 09:10 GMT 10:10 UK
Ymweliadau blaenorol y Brifwyl Wrecsam

Tref Wrecsam
Dyma'r wythfed gwaith i'r Eisteddfod ymweld ag ardal Wrecsam

Wrecsam a'r Fro yw cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae'r brifwyl wedi ymweld â'r ardal saith gwaith yn y gorffennol ac mae wedi rhoi ei lle yn y llyfrau hanes.

Dyma gartref y "dwbl dwbl".

Llwyddodd Syr TH Parry Williams i ennill y Goron a'r Gadair yn Eisteddfod Wrecsam yn 1912 ac yn 1977 llwyddodd Donald Evans i gyflawni'r un gamp.

Pwy a ŵyr be fydd yn digwydd yn Eisteddfod 2011?

Testun Awdl Syr TH Parry Williams ar gyfer y Gadair oedd Y Mynydd a thestun y bryddest am y Goron oedd Gerallt Gymro.

Cadair Ddu

Syr TH Parry Williams oedd y bardd cyntaf i ennill y ddwy wobr yn yr un Eisteddfod.

I Donald Evans, testun y Gadair oedd Llygredd a thestun y bryddest ar gyfer y Goron oedd Hil.

Cadair Eisteddfod Wrecsam 1876

Yn yr Eisteddfod gyntaf i ymweld â Wrecsam yn 1876 y gwelwyd y Gadair Ddu gyntaf.

Roedd y bardd buddugol, Thomas Jones (Taliesin o Eifion) wedi marw ddiwrnod ar ôl anfon yr awdl fuddugol.

Yn ôl yr hanes, ei eiriau olaf oedd 'Ydyw'r awdl wedi ei danfon yn saff?".

Yn y seremoni cafodd y Gadair ei gorchuddio â defnydd du.

Roedd hyn yn gynsail i'r seremoni yn 1917 ym Mhenbedw pan enillodd Ellis Humphrey Evans, Hedd Wyn, ar ôl marw yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Yn y brifwyl yn 1888 y cafodd Cymdeithas yr Orsedd ei ffurfio.

Yn 1933 roedd dros 10,000 yn y 'pafiliwn' i weld actorion lleol yn perfformio'r ddrama Pobun gafodd ei ariannu gan Yr Arglwydd Howard de Walden oedd yn byw yng Nghastell Y Waun.

Roedd y ddrama Almaeneg wedi ei throsi i'r Gymraeg gan T Gwynn Jones.

Diwedd y Rhyfel

Cafodd yr eisteddfod ei chynnal ar Ffordd Bradley, nepell o leoliad Prifwyl 2011.

O lwyfan yr Eisteddfod yn 1945, a gafodd ei chynnal yn Rhosllannerchrugog, y cyhoeddwyd diwedd yr Ail Ryfel Byd gan dorri ar draws cystadleuaeth.

Roedd 'na ddadlau yn yr Eisteddfod honno am gystadleuaeth y Goron.

Yn ei feirniadaeth o'r llwyfan dim ond son am wyth gwaith wnaeth Iorwerth C Peate ac roedd yn feirniadol o wallau yn y gystadleuaeth.

Dywedodd bod y tri beirniad yn unfrydol nad oedd neb yn deilwng.

Ond doedd y gynulleidfa ddim yn fodlon gan gredu bod y feirniadaeth "yn annigonol," gydag un o'r dorf, R R Williams o Gaerffili yn codi a cherdded am y llwyfan yn dweud ei fod yn un o'r 25 wnaeth gystadlu.

Hayden Lewis o Donpentre oedd yn fuddugol yng Nghystadleuaeth y Goron yn 1961 ac Emrys Edwards o Gaernarfon yn ennill y Gadair.

Ac wrth gwrs yn Wrecsam yn 2011 y mae'r dathlu 150 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod Genedlaethol gyntaf ar ei ffurf bresennol, er ei bod erbyn hyn llawer iawn yn fwy.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU



Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific