British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2011, 16:09 GMT 17:09 UK
Cyw Gwalch y Pysgod yn hedfan am y tro cyntaf

Einion - cyw Gwlach y Pysgod
Einion yn paratoi i hedfan y nyth brynhawn Ddydd Mercher

Mae un o'r cywion gweilch cyntaf i gael ei eni yn Nyffryn Dyfi ers mwy na phedair canrif wedi hedfan o'r nyth am y tro cyntaf.

Llwyddodd Einion, yr hynaf o'r tri chyw gafodd eu geni ym mis Mehefin, i hedfan am 40 eiliad tua 2.20pm ddydd Mercher.

Mae'r nyth yn Ynyshir ar ben polyn telegraff 50 troedfedd o uchder ac Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Drefaldwyn sy'n rheoli'r safle.

Dywedodd Rheolwr Prosiect Gweilch Dyfi, Emyr Evans: "Y cyw hynaf, Einion, yw'r cyntaf o'r tri i hedfan.

"Gwthiodd ei hun o'r nyth cyn hedfan at Afon Dyfi cyn dychwelyd a hedfan mewn cylch uwchben y nyth deirgwaith.

"Roedd yr amser hedfan tua 40 eiliad ond rydyn ni wedi bod yn aros i weld hyn am flynyddoedd."

Rhieni'r cywion - Monty a Nora - yw'r ail bâr o weilch sy'n magu cywion ar hyn o bryd yng Nghymru. Mae'r pâr arall yn Aberglaslyn ger Porthmadog wedi geni cywion ers rhai blynyddoedd.

Does dim cofnod o weilch ym magu ger yr afon ers 1604.

Tair sgrîn

Mae ymwelwyr i Gors Dyfi wedi bod yn dilyn bywyd teuluol y gweilch am fod lluniau dau gamera fideo wedi eu gosod yn y nyth yn cael eu dangos ar dair sgrîn yn y warchodfa.

Yn gynharach y mis hwn gosodwyd dyfeisiadau lloeren ar y cywion gweilch bydd yn dilyn eu symudiadau wrth fudo i Affrica yn ystod yr Hydref.

Disgwylir i'r cywion ddechrau eu taith 3,600 o filltiroedd i Affrica ym mis Medi.

Bydd y dyfeisiadau lloeren yn dangos lleoliad cywir yr adar o fewn ychydig o fetrau bob awr.

Mae'r BBC wedi ariannu dwy o'r dyfeisiadau ac mae Prosiect Gweilch Dyfi wedi lansio apêl i dalu am y drydedd.



HEFYD
Y lloeren a'r cywion sy'n mudo
20 Gorff 11 |  Newyddion
Apl i gadw draw o weilch Dyfi
20 Meh 11 |  Newyddion
Cywion: Cynta mewn canrifoedd
06 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific