Dywed Guto Harri ei bod yn hwyr yn y dydd i ddechrau cwyno
Mae Prif Swyddog y Wasg Maer Llundain yn cwestiynu a wnaeth gwleidyddion Cymru ddigon i geisio denu mwy o gampau'r Gemau Olympaidd i Gymru.
Daeth sylwadau Guto Harri ar ôl i Brif Weinidog Cymru Carwyn Jones ddweud ei bod hi'n
anffodus
nad oedd mwy o ddigwyddiadau yn ymwneud â'r gemau yng Nghymru.
Ar raglen y Post Cynta dywedodd Mr Harri y byddai'r Deyrnas Unedig gyfan yn elwa ar y gemau.
"Ma' bach yn hwyr i gwyno nad oes digon wedi cael ei ddosrannu i Gymru achos maen nhw fwy neu lai wedi setlo'r pethau yma ers blynyddoedd lawer.
"A wnaeth Carwyn a'r bobl eraill o'i gwmpas ddigon yn y dyddiau cynnar i gynnig Cymru fel lleoliad?
"Fe alla i yn hawdd ddychmygu'r hwylio yn digwydd yng Nghymru, y beicio mynydd yn digwydd, y canŵio efallai ...
"Mae'n her oherwydd y pellter ond mae'r hwylio yn Weymouth ac mae Weymouth ryw dair awr i ffwrdd.
"A wnaeth gwleidyddion Cymru, y bobl busnes gais iawn ...?"
Dywedodd Llywodraeth Cymru nad oedd ganddyn nhw sylw am yr hyn ddywedodd Mr Harri.
Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.