British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2011, 11:33 GMT 12:33 UK
Casgliad mawr o arian Rhufeinig

 Adrian Simmons  (ar y dde) a'i dad Reg
Adrian Simmons (ar y dde) a'i dad Reg

Mae arbenigwyr yn ceisio dyfalu gwerth 3,000 o geiniogau o'r oes Rufeinig y cafwyd hyd iddyn nhw mewn cae yng nghanolbarth Cymru.

Gwnaed y darganfyddiad gan aelod o glwb chwilotwyr metal o'r Trallwng beth amser yn ôl.

Fe ddaeth o hyd i tua 900 o geiniogau cyn galw am gymorth archeolegwyr.

Mae'r ceiniogau yn dyddio o'r drydedd ganrif.

Mae'n debyg fod cyfnod y ceiniogau yn dyddio o gyfnod cythryblus ac mae'n bosib fod yr arian wedi ei gladdu er mwyn diogelwch
Chris Martin

Crwner Powys fydd yn penderfynu a fydd y ceiniogau yn cael eu dynodi'n drysor.

Pe bai hynny'n digwydd fe allai swm o arian gael ei dalu i'r sawl wnaeth eu darganfod.

Caer Rufeinig

Dywedodd Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd-Powys y byddai'r ceiniogau yn taflu mwy o oleuni ar fywyd y Rhufeiniaid yng Nghymru.

ffiol Rhufeinig
Cafwyd hyd i nifer o'r ceiniogau mewn ffiol

Mae safle'r darganfyddiad yng nghyffiniau pentre Ffordun oedd ar un adeg yn gaer Rufeinig.

Fe wnaeth y Rhufeiniaid adael Cymru yn 410 ar ôl bron pedwar can mlynedd.

Adrian Simmons yw'r dyn ddaeth o hyd i'r ceiniogau ym mis Mehefin.

'Cyffroi'

Dywedodd Chris Martin o Ymddiriedolaeth Archeolegwyr Clwyd-Powys: "Rydym wedi ein llwyr gyffroi gan y darganfyddiad ac yn hynod o ddiolchgar i Mr Simmons a'r tirfeddiannwr am ganiatâd i archwilio'r safle.

"Mae'n debyg fod cyfnod y ceiniogau'n gythryblus ac mae'n bosib fod yr arian wedi ei gladdu er mwyn diogelwch.

"Ond, yn ffodus i ni, mae'n debyg na lwyddodd y perchennog gwreiddiol i ddychwelyd i'r man claddu."

Aed â'r arian i Amgueddfa Cymru yng Nghaerdydd lle bydd adroddiad yn cael ei baratoi ar gyfer Crwner Powys, Peter Maddox.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific