British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2011, 07:15 GMT 08:15 UK
Crusaders: Pryder na fydd cyflog i'r chwaraewyr

Gareth Thomas
Dyw Gareth Thomas ddim yn chwarae ar hyn o bryd wedi iddo dorri'i fraich

Mae un o sêr tîm Rygbi 13 y Crusaders, Gareth Thomas, yn dweud ei fod yn poeni na fydd y chwaraewyr yn cael eu talu am weddill y tymor.

Daw ei bryderon yn dilyn penderfyniad y clwb i beidio gwneud cais am drwydded i gystadlu yn y Super League oherwydd pryderon ariannol.

Bu cyn gapten tîm rygbi'r undeb Cymru yn siarad gyda'r BBC gan ddweud:

"Mae ein sefyllfa ni yn y Crusaders yn anodd. Mae Rod (Finlay) y Prif Weithredwr wedi gofyn i ni chwarae am weddill y tymor yma.

"Ond does dim sicrwydd eto y byddwn ni'n cael ein talu hyd yn oed."

'Rhwygo enaid'

Fe wnaeth cyn seren yr undeb, a enillodd dros 100 o gapiau i Gymru ac a fu'n gapten ar Gymru a'r Llewod, symud i'r gêm 13 yn 2010 ac fe arwyddodd estyniad o flwyddyn ar ei gytundeb yn ddiweddar.

Roedd yn bryderus am effaith penderfyniad y Crusaders ar yr ardal leol gan ddweud y byddai tynnu allan o'r Super League yn "rhwygo enaid a chymuned" o'r ardal.

"Roeddwn i'n siarad gyda phlant heddiw ac maen nhw'n drist iawn am eu bod yn ein dilyn ni," meddai Thomas.

"Roedden nhw yn ein hedmygu ac am fod fel ni am fod yna dim yma.

"Y tristwch mawr yw bod yna gymuned fan hyn sydd am weld chwaraeon a thimau y gallan nhw eu dilyn."

'Cyfleus'

Yn gyfleus iawn mae perchnogion y clwb ar wyliau, felly does neb i ateb cwestiynau'r chwaraewyr
Gareth Thomas

Ychwanegodd fod y tîm ond wedi clywed am y penderfyniad wrth gwrdd gyda'r hyfforddwr Iestyn Harris am sesiwn hyfforddi fore Mawrth.

"Yn gyfleus iawn mae perchnogion y clwb ar wyliau, felly does neb i ateb cwestiynau'r chwaraewyr.

"Nid dim ond mater o rygbi yw hyn, mae'n ymwneud a bywydau a theuluoedd pobl a dyna sy'n brifo.

"Rhaid i'r bois yma nawr gynllunio am ddyfodol yr oedden nhw'n meddwl eu bod eisoes wedi paratoi ar ei gyfer."

Gyda Chymru yn croesawu Cwpan y Byd yn 2013 ar y cyd gyda Lloegr, dywed Thomas fod y penderfyniad yn ergyd i'r gamp.

"Gyda Chymru yng nghystadleuaeth y pedair gwlad eleni ac yn croesawu Cwpan y Byd mae'n sefyllfa drist iawn nid dim ond i'r Crusaders ond i Rygbi 13 yng Nghymru."

Gweinyddwyr

Er iddyn nhw gyrraedd y gemau ail gyfle y tymor diwethaf, mae'r Crusaders ar waelod y Super League eleni gyda phedair gem yn weddill.

Aeth y clwb i ddwylo'r gweinyddwyr yn 2010 er mwyn ceisio clirio'r ddyled etifeddwyd cyn symud o Ben-y-bont i Wrecsam.

O ganlyniad fe gollodd y clwb bedwar pwynt cyn i'r tymor presennol ddechrau.



HEFYD
Crusaders allan o'r Uwchgynghrair
26 Gorff 11 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific