British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011, 19:18 GMT 20:18 UK
Llys: 'Putain yn byw mewn ofn'

Achos Lynette
Mae wyth o gyn blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod putain a gafodd ei llofruddio wedi ofni dyn yr oedd rhywun wedi ei weld yn ei gwthio a'i chicio.

Dywedodd cyn gyrrwr tacsi, Jack Ellis, fod Lynette White am ffoi rhag Stephen Miller - oedd yn gariad iddi ac yn elwa ar ei henillion - am ei fod yn mynd â'i harian i dalu am gyffuriau.

Cafodd Mr Miller a dau ddyn arall - Yusef Abdullahi a Tony Paris - eu carcharu am ladd Lynette White ym 1990 ond fe'i rhyddhawyd ar apêl ym 1992.

Cafodd Ms White, 20 oed, ei llofruddio mewn fflat yng Nghaerdydd ar Chwefror 14, 1988.

Gyrrwr tacsi

Fe gafodd ei thrywanu 50 o weithiau.

Yna yn 2003, 15 mlynedd ar ôl y llofruddiaeth, fe gyfaddefodd Jeffrey Gafoor, 38 oed o Lanharan, iddo lofruddio Ms White.

Mae wyth o gyn-blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Eisoes mae'r erlyniad wedi honni bod cyn-blismyn Heddlu'r De wedi ffugio tystiolaeth yn erbyn Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris.

Ddydd Mawrth dywedodd Mr Ellis wrth y llys ei fod yn yrrwr tacsi yn Nociau Caerdydd yn ystod yr 1980au pan gwrddodd â Ms White.

Ychwanegodd ei fod e'n credu bod Mr Miller yn cymryd cyffuriau ac wedi bod yn cyflenwi cyffuriau i Ms White.

Dywedodd fod Mr Miller yn "ei rheoli o ran gwaith ac o ran arian".

Y tro olaf i Mr Ellis weld Ms White oedd tuag wythnos cyn iddi farw.

'Cicio'

Honnodd ei fod wedi gyrru Ms White i glwb nos lle cyfarfu â Mr Miller ddywedodd wrthi i ddychwelyd i'r tacsi a mynd adref.

Dywedodd Mr Ellis: "Ceisiodd e ei chicio hi cyn dweud wrthi 'well i ti gael esgus da pan gyrhaedda i 'na'."

Honnodd ei fod wedi gweld Mr Miller yn "gwthio a chicio" Ms White.

Dywedodd fod Mr Miller yn treulio "ei amser yng Nghlwb y Casablanca" ond y byddai'n mynd i glwb arall erbyn diwedd y nos i gymryd arian Ms White.

"Soniodd hi erioed ei bod hi'n ofni unrhyw un - heblaw Stephen Miller," meddai Mr Ellis.

"Gofynnodd hi'n aml a oeddwn i'n gwybod am rywle y gallai ffoi.

"Roedd hi am aros yng Nghaerdydd ond roedd hi eisiau mynd i rywle lle na fyddai e'n dod o hyd iddi."



HEFYD
Llys: Tyst yn gwadu ffonio ditectif
25 Gorff 11 |  Newyddion
'Gorfod trywanu Lynette'
22 Gorff 11 |  Newyddion
Lynette: Tystiolaeth putain
20 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: 'Heddlu'n holi'n ymosodol'
08 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: Heddlu wedi 'bwlio' tystion
07 Gorff 11 |  Newyddion
'Wyth wedi ffugio tystiolaeth'
06 Gorff 11 |  Newyddion
Llys Apl: Iawndal yn 'rhy isel'
19 Meh 09 |  Newyddion
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific