Gwelwyd gostyngiad o 21% yn y gost o glirio tipio anghyfreithlon
|
Mae nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru wedi gostwng yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf. Er 2006/07, mae gostyngiad o 24% wedi bod yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon, o 54,841 yn 2006-07 i 41,750 yn 2010-11. Yn ôl Flycapture mae'r gostyngiad hwn yn rhannol oherwydd gwaith menter Taclo Tipio Cymru. Mae'r fenter yn cydweithio gyda 40 o bartneriaid er mwyn ceisio rhoi stop ar dipio anghyfreithlon ar draws Cymru.
 |
Rydym i gyd yn gyfrifol am ein gwastraff felly'r cyngor rydym yn ei roi i bawb yw cofio i ofyn ble mae eu gwastraff yn mynd
|
Mae menter Taclo Tipio Cymru, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, yn addysgu pob sector o'r gymdeithas ynghylch problemau tipio anghyfreithlon ac mae'n hysbysu busnesau a chartrefi o'u dyletswydd gyfreithiol i gael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol. Yn sgil y gostyngiad hwn yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon er 2006, gwelwyd gostyngiad o 21% yn y gost o'i glirio. Cyllid Dywedodd Pippa Sabine, Cydlynydd Cymru Gyfan Taclo Tipio Cymru: "Rydym yn falch o weld bod y data yn parhau i ddangos gostyngiad yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yng Nghymru am y drydedd flynedd yn olynol. "Mae ein hasiantaethau partner i gyd wedi cydweithio i daclo tipio anghyfreithlon ac mae hyn wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at gyflawni'r canlyniad hwn ond mae ataliad yn llawer gwell na gwellhad. "Rydym i gyd yn gyfrifol am ein gwastraff felly'r cyngor rydym yn ei roi i bawb yw cofio i ofyn ble mae eu gwastraff yn mynd. "Os ydych chi'n defnyddio masnachwr i gael gwared ar eich gwastraff, rydym yn annog pobl i sicrhau eu bod wedi cofrestru fel cludwr gwastraff gydag Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru." Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cyllid ar gyfer Taclo Tipio Cymru er 2006. Dywedodd John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd: "Mae gennym ragor o waith i'w wneud i sicrhau gostyngiad yn nifer yr achosion o dipio anghyfreithlon yn yr hirdymor. "Mae'r lleiafrif o unigolion sy'n torri'r gyfraith fel hyn yn niweidio'r amgylchedd, maen nhw'n cefnogi troseddau cyfundrefnol ac yn effeithio ar ansawdd bywyd ein cymunedau. "Yn aml, mae tipio anghyfreithlon yn arwain at broblemau cymdeithasol mwy difrifol ac mae'n faich ar y trethdalwr yn nhermau costau glanhau. "Rwy'n annog pawb i gael gwared ar eu gwastraff mewn dull diogel a chyfreithiol." Flycapture yw'r system y mae awdurdodau lleol ac Asiantaeth yr Amgylchedd yn ei defnyddio i gofnodi digwyddiadau tipio anghyfreithlon.
|