British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mercher, 27 Gorffennaf 2011, 16:17 GMT 17:17 UK
Euog o lofruddio merch ysgol 15 oed o Faesteg

Joshua Davies
Yn euog: Joshua Davies

Yn Llys y Goron Abertawe cafwyd cyngariad merch ysgol 15 oed yn euog o'i llofruddio.

Roedd Joshua Davies, 16 oed, wedi gwadu'r cyhuddiad, gan ddweud mai un o'i ffrindiau oedd ar fai.

Cafodd Rebecca Aylward ei churo i farwolaeth â charreg mewn coedwig ym mis Hydref.

Fe fydd Davies yn cael ei ddedfrydu ym mis Medi.

Penderfynodd y barnwr godi'r gwaharddiad oedd wedi rhwystro'r cyfryngau rhag enwi'r bachgen.

Ar ôl y dyfarniad dywedodd teulu Rebecca na fydden nhw fyth yn maddau i Davies.

'Amhosib'

Cafodd y datganiad canlynol ar ran y teulu ei ddarllen y tu allan i'r llys: "Mae'n amhosib disgrifio mewn geiriau y boen o golli Rebecca mewn amgylchiadau mor ofnadwy.

"Mae ein bywydau ni wedi sefyll yn eu hunfan ers y dydd Sadwrn hwnnw yn Hydref 2010."

Dywedodd y barnwr y byddai Davies "yn gorfod treulio amser hir dan glo".

Rebecca Aylward
Cafodd Rebecca Aylward ei llofruddio mewn coedwig

Ychwanegodd ei bod ond yn iawn fod cymuned glos yn cael gwybod pwy yn union oedd y llofrudd.

Dywedodd y byddai'n rhaid iddo benderfynu beth oedd y cyfnod lleiaf posib y gallai Davies aros tan glo tan ei fod yn gallu gwneud cais am barôl.

Clywodd y rheithgor fod y diffynnydd wedi denu ei gyngariad i'r goedwig yn Abercynffig ger Pen-y-bont ar Ogwr.

Sensitif

Dywedodd Richard Killick, Uwchswyddog Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru, fod yr achos yn un anodd ac yn sensitif o ran ymchwilio ac erlyn.

"Roedd hwn yn ymosodiad oedd wedi ei gynllunio ar ferch 15 oed.

"Dim ond y diffynnydd sy'n gwybod yn iawn y cymhelliad tu ôl i'r weithred.

"Ond rydym yn gwybod fod teulu a ffrindiau Rebecca yn gorfod byw gyda'r canlyniadau," meddai Mr Killick.

"Gallwn ond gobeithio y bydd y dyfarniad mewn rhyw fodd yn help iddyn nhw geisio symud ymlaen."

Yn ystod yr achos clywodd y llys fod y diffynnydd wedi sôn wrth ei ffrindiau am ladd Rebecca.

Bai

Ar ôl iddo ei lladd fe ffoniodd ei ffrindiau a gofyn iddyn nhw ymuno ag e yn y goedwig.

Ond dim ond ei ffrind gorau gyrhaeddodd leoliad y llofruddiaeth.

Yn ystod yr achos ceisiodd y bachgen roi'r bai am y llofruddiaeth ar ei ffrind.

Cafodd Rebecca, oedd yn cael ei hadnabod fel Becca i'w ffrindiau, ei llofruddio ddydd Sadwrn, Hydref 23, ar ddechrau gwyliau hanner tymor.

Cafodd ei chorff ei ganfod yn y goedwig tua 9am y diwrnod canlynol.

Roedd y ferch boblogaidd a galluog ar fin sefyll ei harholiadau TGAU.



HEFYD
Achos llofruddiaeth: Cyhuddo ffrind
14 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: 'Bet adeg brecwast yn jc'
28 Meh 11 |  Newyddion
Llofruddiaeth: Dim mechnaeth
28 Hyd 10 |  Newyddion
Llys yn clywed am fygythiad o ladd
23 Meh 11 |  Newyddion
Llofruddiaeth: Apl o'r newydd
02 Tach 10 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific