British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011, 18:06 GMT 19:06 UK
Gohirio cau Ysgol Y Parc am flwyddyn

Ysgol Y Parc
Mae Cyngor Gwynedd yn dadlau y byddai cau Ysgol Y Parc yn arbed £70,000 y flwyddyn

Mae cynghorwyr Gwynedd wedi gohirio cynllun i gau Ysgol Gynradd Y Parc ger y Bala am flwyddyn.

Y rheswm oedd ansicrwydd am faint o arian ddeuai oddi wrth Lywodraeth Cymru at ad-drefnu addysg yn yr ardal.

Bydd yr ysgol yn cau ar Awst 31, 2013, a'r disgyblion yn symud i Ysgol O M Edwards.

Ym mis Mai y penderfynodd y cyngor yn wreiddioler gwaethaf cryn wrthwynebiad.

Roedd y cyngor wedi dweud y byddai hyn yn arbed tua £70,000 y flwyddyn ac fe allai'r cynllun ad-drefnu arwain at fuddsoddiad o £10.2 miliwn yn ysgolion y dalgylch.

Ac roedd y penderfyniad ar ôl cyfnod o drafodaeth fanwl yn y dalgylch ynghyd â'r ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd yn ystod mis Ionawr a Chwefror.

 Ffred Ffransis
Ymprydio: Ffred Ffransis

Ar hyn o bryd mae 19 o ddisgyblion yn mynd i Ysgol Y Parc.

Aeth llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg, Ffred Ffransis, heb ddŵr na bwyd am 50 awr cyn y cyfarfod.

Yn hytrach na chau'r ysgol roedd y mudiad iaith wedi argymell ffederaleiddio'r ysgolion gwledig lleol.



HEFYD
Ymgyrchydd yn bygwth ymprydio dros ysgol
09 Mai 11 |  Newyddion
Cynlluniau i gau ysgol gam yn nes
15 Maw 11 |  Newyddion
Cau ysgol: Cymeradwyo adroddiad
24 Chwef 11 |  Newyddion
Cyngor o blaid cau ysgolion
16 Rhag 10 |  Newyddion
Model ar gyfer adfywio cymunedau?
25 Awst 10 |  Newyddion
Cyngor o blaid cau ysgolion
15 Gorff 10 |  Newyddion
Ad-drefnu: Creu ysgol gydol oes
13 Mai 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific