British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011, 15:00 GMT 16:00 UK
Cyflwyno Cadair Clawdd Terfyn i'r Brifwyl

Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro 2011
Mae pedwar gwahanol coedyn yn y Gadair eleni

Cafodd Cadair Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro ei chyflwyno i Bwyllgor Gwaith y Brifwyl mewn digwyddiad arbennig ar Faes yr Eisteddfod ddydd Mawrth.

Mae'r Gadair wedi ei rhoi eleni gan gwmni teithio Seren Arian, Caernarfon a Wrecsam, ac mae'r wobr ariannol wedi ei rhoi gan gwmni buddsoddiadau Pritchard Cymru.

Fe grëwyd y gadair gan Dilwyn Jones, Celfi Derw, ar ôl trafodaethau gyda myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr, Wrecsam.

Fe fydd y seremoni agoriadol nos Wener cyn i'r cystadlu ddechrau ddydd Sadwrn.

"Mae derbyn y Gadair hon, a ninnau yma ar Faes yr Eisteddfod yn benllanw dros ddwy flynedd o waith i ddod â'r Eisteddfod Genedlaethol i dref Wrecsam," meddai Aled Roberts, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod 2011.

Thema'r gerdd

"Rydw i'n eithriadol o falch i fod yma i dderbyn y Gadair hardd hon gan y noddwyr eleni.

"Mawr yw ein diolch iddyn nhw, i'r crefftwr, Dilwyn Jones ac i fyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr am eu haelioni, eu hysbrydoliaeth a'u gwaith caled ar y Gadair.

Y gobaith oedd torri cwys newydd o ran technegau er mwyn ennyn diddordeb seiri ifanc y dyfodol yng Nghymru
Dilwyn Jones, Gwneuthurwr a Chynllunydd y Gadair

Clawdd Terfyn yw thema'r gystadleuaeth eleni, ac er bod y gwaith o baratoi ar gyfer yr Eisteddfod yn tynnu tua'r terfyn, dywedodd Mr Roberts mai ar gychwyn y mae'r dathliadau a'r Brifwyl ei hun.

"Gobeithio y cawn wythnos ardderchog yma yn Wrecsam yr wythnos nesaf ac y daw miloedd o'n cyd-Gymry atom i ddathlu diwylliant ein gwlad ac y byddwn hefyd yn croesawu miloedd o ymwelwyr newydd i'n mysg yn ystod yr wythnos", meddai.

Ychwanegodd ei fod yn gobeithio y bydd teilyngdod yn seremoni'r Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a'r Fro eleni.

Mae pedwar gwahanol goedyn yn y Gadair - cedrwydden, sycamorwydden, y Wenge Affricanaidd a'r dderwen Gymreig.

'Y gwerinol a'r modern'

Daw'r coedyn derw o goeden ar gaeau Rhiwlas, Y Bala - lleoliad yr Eisteddfod yn 2009, ac mae patrwm naturiol yn y coedyn, sy'n rhedeg drwy ganol cefn y Gadair, gan gyfeirio at thema'r gerdd, Clawdd Terfyn.

Ar fan uchaf y Gadair, ceir olwyn pwll glo o bren Wenge, a bydd hwn i'w weld wrth i'r bardd eistedd.

Yn ôl Dilwyn Jones, gwneuthurwr a chynllunydd y Gadair eleni, mae'r cynllun yn cyfuno'r gwerinol a'r modern, gan greu Cadair dechnegol gain.

Mae hefyd yn ddatblygiad o arbrofi creadigol gyda myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr.

"Y gobaith oedd torri cwys newydd o ran technegau er mwyn ennyn diddordeb seiri ifanc y dyfodol yng Nghymru," meddai Mr Jones.

Cynhelir Seremoni'r Cadeirio ddydd Gwener, Awst 5 am 4:30pm.

Fferm Bers Isaf, oddi ar Ffordd Rhuthun, Wrecsam yw lleoliad yr Eisteddfod eleni, a chynhelir y Brifwyl rhwng Gorffennaf 30 ac Awst 6.




NEWYDDION

POBOL Y BRIFWYL

LLUNIAU

150 O DDATHLU

ARCHIF NEWYDDION
SAIN A FIDEO
GWEFANNAU


HEFYD
Lluniau: Cadair y Brifwyl
26 Gorff 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific