British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011, 07:49 GMT 08:49 UK
Yr actor Stewart Jones wedi marw yn 83 oed

Cofio actor amryddawn

Bu farw'r actor o Eifionydd, Stewart Jones, yn 83 blwydd oed.

Roedd yn un o leisiau mwyaf cyfarwydd y theatr yng Nghymru ac roedd yn adnabyddus hefyd am ei rannau mewn ffilmiau a chyfresi teledu.

Bydd yn cael ei gofio am gymeriad greodd ei ffrind, y dramodydd Wil Sam, Ifas y Tryc.

Stewart Whyte McEwan oedd ei enw bedydd ac fe gafodd ei eni yng Nghaeredin.

Ond yn Eifionydd y cafodd ei fagu ac fel Stewart Jones mae o wedi cael ei adnabod.

Doedd ei rieni o ddim yn briod pan anwyd ef mewn cartref nyrsio, er eu bod yn bobl barchus a briododd yn ddiweddarach.

Ond cafodd ei fagu gan un wraig, cyn cael ei fagu gan un arall oedd yn briod â saer coed o Eifionydd a oedd yn gweithio ar y Forth Bridge.

Dywedodd ei fod wedi cael ei gludo ar y trên "mewn cawell fel Moses a'i blannu yn Eifionydd" yn chwe mis oed.

Ifas y Tryc

Enillodd wobr Goffa Llwyd o'r Bryn ddwywaith.

Fo oedd yr enillydd cyntaf un yn yr Eisteddfod yn Llandudno yn 1963, cyn ennill eto'r flwyddyn ganlynol yn Abertawe.

Stewart Jones yn recordio ar gyfer Radio B, Radio Cymru yn 1965
Roedd Stewart Jones yn llais cyfarwydd ar radio, llwyfan, teledu a ffilm

Yn 1964 hefyd y dechreuodd bortreadu'r cymeriad Ifas y Tryc, a gafodd ei sgriptio gan Wil Sam ar gyfer y Rhaglen Stiwdio B.

Daeth ymadroddion megis "embaras" a "sgersli bilif" yn rhan naturiol o'r iaith lafar.

Roedd wedi dod â'r cymeriad yn fyw ar radio, llwyfan, teledu, ffilm a recordiau.

Ond yn ogystal ag actio cymeriadau doniol, fel yn y gyfres Glas y Dorlan, fe wnaeth Stewart Jones gyfraniad enfawr i'r theatr yng Nghymru a hynny mewn dramâu megis Under Milk Wood ac ar deledu yn Nhalcen Caled.

Enillodd wobr Bafta Cymru am actio'r brif ran yn y ffilm Oed yr Addewid yn 2002.

Ond cyn cael gyrfa fel actor roedd wedi gweithio ar y lein, yn siopwr ac fel saer coed.

'Athrylith'

"Actio petha' doniol oedd ei fwynhad mwya', ond roedd yn actor clasurol hefyd," meddai Ioan Roberts, a weithiodd ar gyfres o raglenni am yr actor.

"Dywedodd unwaith mai'r ddau sgwennwr oedd o'n mwynhau perfformio eu gwaith fwya' oedd Saunders Lewis a Wil Sam, dau digon gwahanol ond roedd ganddo barch i'w geiriau.

"Roedd geiriau yn bwysig iddo fo.

"Yr adrodd oedd wedi dod gyntaf ac yna ddramâu llwyfan Cwmni'r Gegin yng Nghricieth cyn y radio ym Mangor.

"Yna daeth y teledu a chyfle newydd iddo."

Dywedodd bod 'na "ddau athrylith yn digwydd byw yn yr un ardal" a bod talentau Wil Sam a Stewart Jones wedi uno efo'i gilydd.

"Cafodd ei fagu yn Eifionydd gan y bardd Cennin a oedd 63 mlynedd yn hŷn 'na fo," meddai Mr Roberts.

"Er nad oedd ganddo wreiddiau gwaed yn Eifionydd, roedd ganddo wreiddiau diwylliannol dwfn iawn yno."

Wrth hel atgofion dywedodd Alun Ffred Jones, a fu hefyd yn gweithio gyda Stewart Jones, ei fod yn "glamp o gymeriad" a bod "chwedloniaeth yn tyfu o'i gwmpas".

"Roedd yn actor da iawn iawn ac yn amryddawn.

"Yn ei gyfnod roedd yr eisteddfodau bach a mawr yn eu bri ac roedd yn adroddwr penigamp...o bosib y llefarydd gorau yn ei gyfnod o farddoniaeth Gymraeg ac o bosib ei ddawn fwya'."



HEFYD
Wil Sam wedi marw
16 Tach 07 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific