British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Gorffennaf 2011, 18:20 GMT 19:20 UK
Llys: Tyst yn gwadu ffonio ditectif

Lynette White
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 gwaith yn ei fflat

Mae menyw, gafodd ei holi yn yr ymchwiliad gwreiddiol i lofruddiaeth Lynette White, wedi gwadu ei bod wedi ffonio ditectif "sawl gwaith".

Dywedodd Angela Psaila ei bod hi wedi gorfod arwyddo datganiadau ffug fyddai'n cael eu defnyddio i helpu carcharu Tri Caerdydd oedd yn ddieuog o lofruddio Ms White.

Clywodd Llys y Goron Abertawe nad oedd Miss Psaila'n cofio ffonio'r ditectif, Michael Daniels.

Honnodd Miss Psaila fod Mr Daniels wedi dangos atgasedd ati.

50 o weithiau

Mae wyth o gyn-blismyn wedi gwadu cyhuddiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder ac mae dau berson arall ac un o'r cyn-blismyn yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Cafodd Ms White, 20 oed, oedd yn gweithio fel putain, ei llofruddio mewn fflat yng Nghaerdydd ar Chwefror 14, 1988.

Fe gafodd ei thrywanu 50 o weithiau.

Cafodd Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris eu carcharu ar gam ym 1990 a'u rhyddhau ar apêl ym 1992.

Yna yn 2003, 15 mlynedd ar ôl y llofruddiaeth, fe gyfaddefodd Jeffrey Gafoor, 38 oed o Lanharan, iddo lofruddio Ms White.

Eisoes mae'r erlyniad wedi honni bod cyn-blismyn Heddlu'r De wedi ffugio tystiolaeth yn erbyn Stephen Miller, Yusef Abdullahi a Tony Paris.

CYHUDDIADAU
GRAHAM MOUNCHER (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
THOMAS PAGE (Cyn-brif arolygydd wedi ymddeol)
RICHARD POWELL (Cyn Uwch-arolygydd wedi ymddeol)
JOHN SEAFORD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
MICHAEL DANIELS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PETER GREENWOOD (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL JENNINGS (Cyn-Dditectif Cwnstabl wedi ymddeol)
PAUL STEPHEN (Cyn-Sargant wedi ymddeol)
Yr uchod yn gwadu cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Mae Mr Mouncher hefyd yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.
VIOLET PERRIAM a IAN MASSEY yn gwadu dau gyhuddiad o ddweud celwydd ar lw.

Cofio

Ddydd Llun dywedodd Miss Psaila wrth y llys ei bod hi'n cofio'r cyn Dditectif Gwnstabl Michael Daniels a'r cyn Dditectif Cwnstabl Bryan Gillard yn Orsaf Heddlu Trebiwt, Caerdydd, ym 1988.

Honnodd hi fod y ditectifs yn "fwlis cythreulig" oedd wedi ei gorfodi i enwi ar gam nifer o bobl yr oedd hi wedi eu gweld yng nghyffiniau fflat Lynette.

Wrth iddi gael ei chroesholi gan Elwen Evans QC, gofynnwyd i Miss Psaila pam yr oedd hi wedi ffonio cartref Mr Daniels "sawl tro" os oedd e wedi dangos atgasedd.

Atebodd Miss Psaila: "Na, wnes i ddim (ei ffonio). Dwi ddim yn cofio gwneud hynny."

Dywedodd hi mai dim ond enwau Mr Daniels a Mr Gillard yr oedd hi'n eu cofio ar ôl cymaint o flynyddoedd.

"Roedd y dyn (Daniels) a Gillard yn gythreulig.

"Peidiwch ag eistedd fan'na yn rhoi geiriau yn 'y ngheg. Dwi ddim yn derbyn hyn," meddai Miss Psaila.

Mae'r achos yn parhau.



HEFYD
'Gorfod trywanu Lynette'
22 Gorff 11 |  Newyddion
Lynette: Tystiolaeth putain
20 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: 'Heddlu'n holi'n ymosodol'
08 Gorff 11 |  Newyddion
Llys: Heddlu wedi 'bwlio' tystion
07 Gorff 11 |  Newyddion
'Wyth wedi ffugio tystiolaeth'
06 Gorff 11 |  Newyddion
Llys Apl: Iawndal yn 'rhy isel'
19 Meh 09 |  Newyddion
Lynette White - Y Cefndir
19 Rhag 08 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific