British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011, 07:10 GMT 08:10 UK
Penderfynu tynged Pafiliwn Corwen

Pafiliwn Corwen
Cafodd ymgyrchwyr wythnos ychwanegol i gyflwyno gwybodaeth ariannol

Mae disgwyl i farnwr benderfynu ynglŷn â dyfodol Pafiliwn Corwen, ganrif wedi i'r adeilad gael ei godi.

Roedd disgwyl penderfyniad wythnos yn ôl ond cafodd ymgyrchwyr saith niwrnod arall i gyflwyno gwybodaeth ariannol.

Mae'r cyngor sir yn awyddus i ddymchwel yr hen adeilad.

Ond mae ymgyrchwyr yn dadlau bod modd achub yr adeilad.

Fe gaeodd y pafiliwn yn ddirybudd ym mis Mawrth 2010 oherwydd pryderon am asbestos a namau trydanol.

Ers hynny mae ymgyrchwyr lleol wedi brwydro i'w achub.

Maen nhw'n dadlau bod modd gwneud yr adeilad yn ddiogel am ryw £60,000.

Roedd Cyngor Sir Ddinbych o'r farn bod angen gwario tua £2 filiwn ar godi adeilad newydd, ond cytunwyd mewn egwyddor i drosglwyddo'r tir i aelodau grŵp cymunedol.

Penderfynodd barnwr y llys roi wythnos o amser ychwanegol i'r ymgyrchwyr gyflwyno tystiolaeth ariannol cyn penderfynu ar ddyfodol y pafiliwn.



HEFYD
Dymchwel Pafiliwn wedi ei atal
08 Meh 11 |  Newyddion
Pafiliwn: Cyngor yn ystyried apelio
02 Ebr 11 |  Newyddion
Dymchwel Pafiliwn Corwen
25 Maw 11 |  Newyddion
Pafiliwn: Dyfodol newydd?
03 Awst 10 |  Newyddion
Cau Pafiliwn Corwen
03 Maw 10 |  Newyddion
Llys yn gwyrdroi gwaharddiad
06 Meh 11 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific