British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2011, 05:44 GMT 06:44 UK
Cabinet yn cwrdd yn y gogledd am y tro cynta'

Swyddfa Llywodraeth y Cynulliad yng Nghyffordd Llandudno
Agorwyd yr adeilad yng Nghyffordd Llandudno ym mis Medi 2010

Mae Cabinet Llywodraeth Cymru yn cynnal y cyfarfod llawn cynta' erioed yng ngogledd Cymru.

Yn swyddfeydd y llywodraeth yng Nghyffordd Llandudno mae'r cyfarfod.

Mae dyddiad y cyfarfod - Gorffennaf 26 - hefyd yn arwyddocaol gan ei fod yn nodi blwyddyn yn union ers i'r staff cynta' ddechrau gweithio yn y swyddfa newydd.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, eu bod fel llywodraeth ar gyfer Cymru gyfan, "ac mae'n briodol iawn fod busnes y llywodraeth yn cael ei drafod ar draws y wlad".

"Mae'r ffaith bod gennym swyddfeydd rhanbarthol yn ein galluogi i wneud hyn.

'Hanesyddol'

Carwyn Jones
Er ein bod oll yn ymwybodol bod sefyllfa'r economi'n fregus o hyd, mae swyddfa Cyffordd Llandudno yn fuddsoddiad hirdymor sydd eisoes wedi ysgogi manteision
Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru

Cafodd yr adeilad yng Nghyffordd Llandudno - sy'n werth £20 miliwn - ei agor yn swyddogol fis Medi'r llynedd ac mae lle ynddo i 650 o staff.

"Pan agorais swyddfa Cyffordd Llandudno yn swyddogol y llynedd, dywedais ei fod yn ddiwrnod hanesyddol i'r llywodraeth a hefyd i Ogledd Cymru," meddai Mr Jones.

"Mae heddiw hefyd yn ddiwrnod pwysig gan mai dyma'r tro cyntaf i Gabinet Cymru gyfarfod yma.

"Priodol iawn yw'r ffaith ei fod yn cael ei gynnal union flwyddyn ar ôl i'r swyddfa agor ei drysau i staff am y tro cyntaf."

Dywedodd y Prif Weinidog fod 'na fwriad i gynnal rhagor o gyfarfodydd yng Nghyffordd Llandudno yn y dyfodol, yn ogystal â mewn lleoliadau eraill ar draws y wlad.

'Manteision'

"Mae'r swyddfa hon yn cynrychioli ein hymrwymiad i sicrhau presenoldeb amlwg yn y Gogledd," ychwanegodd Mr Jones.

"Er ein bod oll yn ymwybodol bod sefyllfa'r economi'n fregus o hyd, mae swyddfa Cyffordd Llandudno yn fuddsoddiad hirdymor sydd eisoes wedi ysgogi manteision.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, un o brif amcanion y swyddfeydd rhanbarthol yw cryfhau'r cysylltiadau rhwng y llywodraeth a chymunedau Cymru.

Ond mae pryder ymhlith yr undebau a gwleidyddion y gallai'r pencadlys newydd yn y gogledd arwain at gau swyddfeydd llai'r llywodraeth, fel y rhai yng Nghaernarfon neu Gaerfyrddin.



HEFYD
Gwynt: Swyddfa llywodraeth yn cau
07 Chwef 11 |  Newyddion
Agor swyddfeydd gwerth £20m
23 Medi 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific