British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Gorffennaf 2011, 17:38 GMT 18:38 UK
Cyhoeddi cynigion sy'n cael eu ffafrio

Llyn Efyrnwy
Mae'r stad wedi bod ar werth am 11 miliwn

Mae cwmni Hafren Trent wedi dweud mai ceisiadau ar y cyd United Utilities ac RSPB Cymru sy'n cael eu ffafrio ar gyfer daliadau amaethyddol Llys Efyrnwy.

Cais FIM Sustainable Timber & Energy LP sy'n cael ei ffafrio ar gyfer y goedwig fasnachol ar y stad 23,000 o erwau ym Mhowys.

Am dri mis fe fydd ymgynghori statudol â Chyngor Cefn Gwlad cyn y bydd y trefniadau'n dod i ben yn yr hydref.

Hwn fydd yr wythfed cyfarfod cyhoeddus yn yr ardal i drafod gwerthu'r stad.

Dywedodd Ted Pearce, Cyfarwyddwr Eiddo Hafren Trent: "Sicrhau dyfodol tymor hir Stad Efyrnwy, wrth gwrs, yw ein prif nod.

'Yn drylwyr'

"Mae'r broses ddethol wedi bod yn drylwyr wrth i ni drefnu bod y ceisiadau'n addas ar gyfer y gymuned, yr amgylchedd a datblygiad y stad yn y dyfodol.

"Yn sicr, mae'r ceisiadau sy'n cael eu ffafrio wedi dangos eu gallu i gwrdd â'r amcanion dan sylw."

Mae'r stad wedi bod ar werth am £11 miliwn ac ar brydles o 125 mlynedd ers mis Gorffennaf y llynedd.

Ym mis Tachwedd awgrymodd arolwg ymhlith y trigolion y dylai creu swyddi lleol fod yn flaenoriaeth i'r perchennog newydd.

Mae'r tir sydd ar werth yn cynnwys ffermydd, gwarchodfa natur a chartrefi'r pentrefwyr.

'Hynod siomedig'

Nos Lun aeth tua 100 o bobl i gyfarfod cyhoeddus yn Abertridwr, wedi'i drefnu gan Cyngor Cymuned Llanwddyn, i drafod y mater.

Dywedon nhw eu bod yn "hynod siomedig" mai cynigion United Utilities a'r RSPB sy'n cael eu ffafrio.

Dywedodd yr Aelod Seneddol Glyn Davies, a oedd yno ar gyfer diwedd y cyfarfod, ei fod yn cefnogi barn y trigolion lleol, y dylai'r stad fod yn cael ei gwerthu i'r dyn busnes lleol, Rhys Jones.

Roedd y trigolion hefyd yn siomedig nad oedd unrhyw un o gwmnïau Hafren Trent ac United Utilities, nac o'r RSPB yn y cyfarfod i glywed y pryderon.



HEFYD
Gwerthu ystd: 'Mwy o wybodaeth'
05 Tach 10 |  Newyddion
Ymgyrch i brynu Stad 11 miliwn
18 Gorff 10 |  Newyddion
Cwmni dwr yn gwerthu 23,000 o erwau
11 Gorff 10 |  Newyddion
Efyrnwy: Cymuned yn galw am 'rodd'
27 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific