British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Gorffennaf 2011, 15:02 GMT 16:02 UK
Gwlad Thai: Ymchwilio i fideo

Kirsty Jones
Roedd Kirsty Jones yn teithio o amgylch y byd pan gafodd ei lladd

Mae Aelod Seneddol wedi beirniadu Heddlu Gwlad Thai oherwydd sut ymchwilion nhw i achos Cymraes gafodd ei llofruddio yn y wlad 11 mlynedd yn ôl.

Cafodd Kirsty Jones, 23 oed o Dredomen ger Aberhonddu, ei threisio a'i thagu mewn gwesty ar Awst 10, 2000.

Mae AS Aberhonddu a Maesyfed, Roger Williams, wedi honni nad oedd Heddlu Gwlad Thai wedi ymateb yn ddigon cyflym i dystiolaeth newydd.

Dyw'r llofruddiaeth ddim wedi ei datrys ond mae fideo ar wefan You Tube yn enwi dyn gafodd ei weld ger y gwesty.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw a'r Swyddfa Gartref wedi gofyn i'r awdurdodau yng ngwlad Thai ymchwilio i'r honiad.

Mae'r AS wedi dweud bod yr honiad wedi bod ar y we "am dipyn o amser" a bod Heddlu Gwlad Thai wedi cael cais i roi prawf DNA i'r dyn gafodd ei enwi yn y fideo.

'Neb yn fodlon'

Ychwanegodd Mr Williams y byddai'r prawf DNA naill ai'n golygu nad oedd y dyn yn rhan o ymholiadau'r heddlu neu'n profi bod ganddo achos i'w ateb.

"Hoffwn roi teyrnged i Heddlu Dyfed-Powys, yn enwedig y swyddogion hynny sydd wedi bod yn ymwneud â theulu Kirsty Jones," meddai.

"Ni allai neb fod yn fodlon ar safon ymchwiliad Heddlu Thai ac mae Heddlu Dyfed-Powys wedi eu rhwystro oherwydd yr hyn y mae Heddlu Gwlad Thai wedi ei wneud.

"Maen nhw wedi cael tystiolaeth newydd ond dydyn ni ddim yn credu bod y dystiolaeth yn cael ei defnyddio mewn ffordd gymwys.

"Pe bai'r prawf DNA yn cael ei gynnal, fe fydden ni'n fwy ffyddiog fod Heddlu Gwlad Thai yn cynnal ymchwiliad trwyadl."

Er i nifer gael eu harestio dros y blynyddoedd, does neb wedi cael ei gyhuddo.

Prawf

Cafwyd hyd iddi yn farw mewn ystafell yng ngwesty Aree yn Chiang Mai i'r gogledd o'r brifddinas Bangkok.

Roedd wedi dechrau taith dwy flynedd o gwmpas y byd ryw dri mis yn gynharach.

Yn ystod y penwythnos, dywedodd ei mam, Sue Jones: "Rydyn ni wedi bod yn ymwybodol o'r dystiolaeth am dipyn o amser ... ac rydyn ni'n aros i Heddlu Gwlad Thai gynnal prawf DNA ar y dyn."

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi helpu Heddlu Gwlad Thai gyda'r ymchwiliad.

Dywedodd y Ditectif Brifarolygydd Steve Wilkins eu bod yn ymwybodol o'r honiadau yn y fideo.

"Mae'r honiad a'r ffynhonnell wedi bod yn destun trafod rhwng Heddlu Dyfed Powys a'r Swyddfa Dramor am beth amser ac mae cais wedi ei wneud i'r awdurdodau yng Ngwlad Thai i ymchwilio'n drylwyr i'r mater."



HEFYD
Gwlad Thai: Ymchwilio i fideo
24 Gorff 11 |  Newyddion
'Ddim yn rhoi'r gorau i'r frwydr'
10 Awst 10 |  Newyddion
Marwolaeth: 'Angen dysgu gwersi'
03 Ion 06 |  Newyddion
Marwolaeth: Ymchwiliad newydd
10 Awst 05 |  Newyddion
Kirsty: Ofn AS am ymchwiliad
13 Awst 07 |  Newyddion
Achos teithwraig: Oedi ymchwiliad
16 Awst 06 |  Newyddion


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific