British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Gorffennaf 2011, 09:22 GMT 10:22 UK
Cyfarfod i drafod dyfodol stad 23,000 o erwau ym Mhowys

Llyn Efyrnwy
Mae'r stad wedi bod ar werth am 11 miliwn

Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal nos Lun i drafod dyfodol stad 23,000 o erwau ym Mhowys, sy'n cynnwys Llyn Efyrnwy.

Yr wythnos ddiwetha' dywedodd y perchnogion presennol cwmni dŵr Severn Trent eu bod wedi penderfynu ar brynwr.

Ond gwrthododd y cwmni gadarnhau eu bod yn gwerthu'r stad i gwmni dŵr arall, United Utilities.

Mae'r Aelod Cynulliad, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wedi galw am ymchwiliad.

Dywedodd fod yna "ddiddordeb cyhoeddus sylweddol" yn y mater.

Trafodaeth

Mae cwmni United Utilities yn cyflenwi dŵr a gwaredu gwastraff dŵr ar gyfer 7 miliwn o bobl yng ngogledd orllewin Lloegr.

Ymhlith y rhai eraill oedd yn awyddus i brynu'r stad oedd y gŵr busnes lleol Rhys Jones, elusen RSPB a Chymdeithas Tai Canolbarth Cymru.

Bydd y cyfarfod yng nghanolfan gymunedol Abertridwr am 7pm nos Lun.

Dyma'r wythfed cyfarfod cyhoeddus i drafod y gwerthiant.

Dywedodd y cynghorydd sir lleol, Simon Baynes, nad oedd o'n gwybod a fyddai United Utilities yn anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod.

Mae'r stad wedi bod ar werth am £11 miliwn ac ar brydles o 125 mlynedd ers mis Gorffennaf y llynedd.

Ym mis Tachwedd awgrymodd arolwg ymhlith y trigolion y dylai creu swyddi lleol fod yn flaenoriaeth i'r perchennog newydd.

Mae'r tir sydd ar werth yn cynnwys ffermydd, gwarchodfa natur a chartrefi'r pentrefwyr.



HEFYD
Gwerthu ystd: 'Mwy o wybodaeth'
05 Tach 10 |  Newyddion
Ymgyrch i brynu Stad 11 miliwn
18 Gorff 10 |  Newyddion
Cwmni dwr yn gwerthu 23,000 o erwau
11 Gorff 10 |  Newyddion
Efyrnwy: Cymuned yn galw am 'rodd'
27 Gorff 10 |  Newyddion

CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific