British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Sul, 24 Gorffennaf 2011, 16:50 GMT 17:50 UK
Seiclo: Potensial Geraint Thomas

Geraint Thomas
Geraint Thomas: "Gall gystadlu am brif wobrau'r Tour"

Mae'r seiclwr Chris Boardman yn credu y dylai Team Sky ymchwilio i botensial Geraint Thomas wedi i'r Cymro chwarae rhan flaenllaw yn y Tour De France yn dilyn ymadawiad arweinydd y tîm - Bradley Wiggins - o'r ras gydag anaf.

Mae perfformiadau'r Cymro wedi ennill llu o edmygwyr cyn i Team Sky ymestyn ei gytundeb o bedair blynedd yr wythnos ddiwethaf.

Mae Boardman yn credu y gall Thomas fod yn herio am rhai o brif wobrau'r Tour yn y dyfodol.

Dywedodd Boardman - pencampwr Olympaidd yn 1992 ac enillydd cymalau deirgwaith ar y Tour De France:

"Mae absenoldeb Bradley wedi rhoi cyfle iddo weld beth mae e'n gallu gwneud.

"Petai e'n dringo ychydig bach yn well, ac yn gwneud treialon amser ychydig bach yn well, fe fydd e yna.

"Yn dactegol ac yn dechnegol mae e'n dda iawn, wastad lle mae e angen bod ac yn darllen ras yn dda iawn."

Penderfyniad anodd

Gorffennodd Thomas Tour De France 2011 yn safle 31, ond roedd hefyd yn yr ugain uchaf o ran pwyntiau (Crys Gwyrdd) a dringo (Crys Smotiau Coch), ac fe orffennodd yn seithfed ymhlith seiclwyr ifanc (dan 25 oed) y ras.

Wrth ddringo'r Col du Tourmalet yn y Pyrenees, cafodd ei gydnabod gyda gwobr beiciwr 'combative' y cymal.

Fe fydd gan Thomas a Team Sky benderfyniad anodd i'w wneud ymhen blwyddyn.

Bydd Tour De France 2012 yn gorffen wythnosau yn unig cyn y Gemau Olympaidd yn Llundain, ac er bod Thomas yn awyddus i fynd ar y Tour unwaith eto, mae e wedi dweud yn gyhoeddus y byddai'n hoffi cystadlu am fedal Olympaidd arall ar ei gasgliad.

Enillydd y Tour De France oedd Cadel Evans - y dyn cyntaf o Awstralia i ennill ras feiciau enwoca'r byd.




Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific