British Broadcasting Corporation

Safleoedd Eraill BBC

Newyddion Mewn Ieithoedd Erail

Diweddarwyd: Dydd Llun, 25 Gorffennaf 2011, 06:26 GMT 07:26 UK
Ymgais i ddiogelu hanes pentref

Melin ddŵr yr Orsedd (Llun: Richie Griff)
Mae melin ddŵr yr Orsedd yn dyddio nl i'r 17eg ganrif

Mae cynllunwyr Wrecsam yn ceisio barn trigolion yn Yr Orsedd oherwydd cynlluniau i ddiogelu hanes y pentref.

Maen nhw wedi dweud y dylai'r gymuned, sydd ar y ffin gyda Lloegr, gael statws cadwraeth.

Ond mae rhai'n poeni y byddai'r cynllun yn gosod amodau llym os byddan nhw am wneud newidiadau i'r cartrefi.

Dywedodd y cynllunwyr nad bwriad statws cadwraeth oedd atal datblygiad a newidiadau.

Hanes

Station Road
Cynnar: Mae enw'r Orsedd yn cyfeirio at gaer hynafol sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y Sacsoniaid
Canol oesoedd:Mae cofnod o'r pentref cyntaf yn Yr Orsedd yn Llyfr Domesday, gan gynnwys cyfeiriad at y felin ddŵr yno
16eg Ganrif:Adeiladu Neuadd Trefalun, sef esiampl wych o bensaerniaeth Elizabethaidd
17eg Ganrif: Ymestyn y felin, sy'n adlewyrchu twf yn y boblogaeth
18eg Ganrif:Codi Neuadd Yr Orsedd a Phlas Trefalun sydd wedi cadw'u cymeriad Georgaidd
Ffynhonell: Cynllun Rheoli Ardal Gadwraeth Yr Orsedd gan Gyngor Wrecsam

Mae'r cais am y statws yn canolbwyntio ar ganol hanesyddol y pentref ar hyd Ffordd Caer, sy'n cynnwys dau hen dŷ mawr, dwy felin, eglwys a thafarn hanesyddol.

Mae'r ardal hefyd yn cynnwys ffordd wreiddiol y pentref, Gun Street, ynghyd ag estyniad 19eg Ganrif i'r pentref.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones ei fod wedi bod yn ceisio cael statws cadwraeth i'r pentref ers tair blynedd oherwydd ei "gymeriad unigryw."

Dywedodd fod nifer o adeiladau yn y stryd heb fod yn gofrestredig ar hyn o bryd, ond eu bod yn haeddu cael eu hamddiffyn er mwyn eu cadw.

'Cyfaddawd'

Yn ôl dogfen ymgynghorol gan y cyngor: "Y nod yw cyfaddawd fel bod modd ystyried anghenion cadwraeth yn llawn ochr yn ochr â'r angen am newid a datblygiad."

Pryder rhai yn lleol yw y gallai rheol gynllunio llym gael ei mabwysiadu a fyddai'n golygu y byddai'n rhaid iddyn nhw wneud cais am ganiatâd cynllunio i wneud man newidiadau fel gosod ffenest newydd neu osod offer teledu lloeren ar ochr y tai.

Mae'r ddogfen ymgynghorol yn egluro y byddai'r polisi yn sicrhau y byddai adeiladau yn cadw nodweddion traddodiadol.

"Mae gosod nodweddion amhriodol yn lle'r rhai traddodiadol, neu dynnu'r nodweddion gwreiddiol yn ymddangos yn ddinod efallai, ond effaith raddol newidiadau fel hyn sy'n erydu cymeriad arbennig unrhyw ardal," meddai'r ddogfen.

Mae Cyngor Wrecsam wedi dechrau cyfnod ymgynghorol gyda thrigolion a busnesau lleol, ac fe fydd yn cynnal sesiwn holi ac ateb yn Neuadd Bentref Yr Orsedd ar Ffordd yr Orsaf ar ddydd Mawrth, Awst 2 rhwng 3.30pm a 7pm.



CYSYLLTIADAU RHYNGRWYD:
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol


Archwilio'r BBC

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr persennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.
Americas Africa Europe Middle East South Asia Asia Pacific